Alert Section

Strategaeth Ddigidol Sir y Fflint

Gweld fersiwn hygyrch y ddogfen ryngweithiol

Flintshire News and Promotions

Digital Volunteers

Ymateb i Ymgynghoriad Digidol Sir y Fflint

Mae’r canlyniadau wedi dod i law ar gyfer yr ymgynghoriad ar ein Strategaeth Ddigidol arfaethedig a hoffem ddiolch i’r 179 o bobl a gymerodd ran.

Mae ein strategaeth ddigidol yn nodi sut y byddwn yn croesawu’r cyfleoedd y mae technolegau digidol, arloesedd a gwybodaeth yn eu cynnig i ni i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon.

Ymateb i Ymgynghoriad Digidol Sir y Fflint - Darganfod mwy
digital-phone-laptop

Sir Y Fflint Digidol

Ein cynllun, Sir y Fflint Digidol, sy’n nodi sut y byddwn yn gwella, datblygu a symleiddio ein gwasanaethau, gan gynnig y profiad gorau i bawb. Mae yna 8 prif thema

1. Cwsmer Digidol

Galluogi ein cwsmeriaid i ddod o hyd i wybodaeth a defnyddio ein gwasanaethau mewn ffordd gyfleus a hygyrch

2. Gweithlu Digidol

Rhoi’r wybodaeth, sgiliau ac adnoddau digidol cywir i’n gweithlu i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy syml

3. Busnes Digidol a Chysylltedd

Cydweithio ag eraill i helpu ein busnesau, ein trigolion a’n hymwelwyr drwy wella cysylltedd a chyflwyno technolegau newydd

4. Partneriaethau Digidol

Cydweithio â’n partneriaid i wella a datblygu systemau a thechnolegau digidol fydd yn cysylltu pobl, lleoedd a’r gwasanaethau y maen nhw eu hangen

5. Gwybodaeth Ddigidol a Rheoli Data

Sicrhau bod ein data yn ddiogel, yn cael ei ddiogelu ac yn cael ei ddefnyddio i helpu gwella gwasanaethau ar gyfer ein trigolion a’n busnesau

6. Darpariaeth Ddigidol

Darparu’r strwythur digidol angenrheidiol i helpu darparu ein gwasanaethau ac i sicrhau bod Sir y Fflint Digidol yn digwydd

7. Cynhwysiad Digidol

Helpu ein trigolion drwy ddatblygu gwasanaethau digidol hygyrch, a darparu adnoddau a chyfleoedd dysgu iddyn nhw allu ymgysylltu â’r byd digidol yn hyderus ac yn ddiogel

8. Dysgu Digidol a Diwylliant

Helpu ein trigolion a’n dysgwyr o bob oed i fod yn gymwys, yn hyderus a gallu ymgysylltu â’r byd digidol o’u cwmpas