Alert Section

Cwsmeriaid Digidol a Gwytnwch Cymunedol


“Arwain y Gwaith o Gyflawni ein Blaenoriaethau Allweddol

Mae Cyngor Sir y Fflint

yn dymuno recriwtio ar gyfer tair swydd strategol bwysig

Rheolwr Cyflawni Rhaglen - Cwsmeriaid Digidol a Gwytnwch Cymunedol (Cyfnod Penodol am 3 blynedd)

Y swydd hon sydd yn gyfrifol am reoli’r rhaglen i weithredu tri phrif faes o waith: 
    • Strategaeth Digidol
    • Strategaeth Cwsmeriaid
    • Fframwaith Gwytnwch Cymunedol

Felly rydym yn chwilio am gyfuniad arbennig o wybodaeth a sgiliau sydd yn ymwneud ag arweinyddiaeth a thechnoleg ddigidol i wella gwasanaethau i gwsmeriaid yn ogystal â gweithio gyda chymunedau i gynyddu eu sgiliau a gwytnwch.

Gyda phrofiad helaeth a sgil o reoli Rhaglenni a Phrosiectau, byddwch eisoes wedi dangos eich sgiliau arweinyddiaeth sy'n gweddnewid a byddwch yn brofiadol wrth weithredu modelau gwasanaeth newydd.

Byddwch yn defnyddio eich sgiliau cyfathrebu a dylanwadu i negodi’n effeithiol a meithrin perthnasau gweithio ar draws ffiniau.

Mae gallu meddwl yn ddadansoddol gyda'r gallu i ddadansoddi a datrys problemau cymhleth yn hanfodol i fod yn llwyddiannus yn y swydd hon.

Oriau - Llawn Amser - 37 awr yr wythnos

Cyflog – Graddfa K  £40,858 - £43,757 y flwyddyn  

Lleoliad – Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Dyddiad cau ar gyfer y Cais - Dydd Llyn 4 Mehefin

Dyddiad Asesu i Ddewis - Dydd Gwener 15 Mehefin

I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag:

Ian Bancroft, Prif Swyddog ar gyfer Rhaglenni Strategol

Ffôn 01352 704180 neu e-bost ian.bancroft@flintshire.gov.uk

I weld y swydd ddisgrifiad llawn ac arweiniad ar sut i wneud cais, cliciwch yma.

Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata (Cyfnod Penodol 2 flynedd)

This role will lead the development and implementation of a three year plan that underpins the strategic goals of the Council, recently adopted in its Income Strategy.

Maximising income through fees and charges and effective marketing of our income generating services to both the public and private sector will be key. 

You will have a proven track record of implementing income generation projects and extensive experience in developing creative and integrated marketing campaigns that can capture imagination to increase the Councils own brand awareness.

You’ll be a determined individual, with a results orientated focus and the perseverance to deliver to income targets.

Strategic thinking and experience of creating evidence to enhance bid submissions will be essential and it goes without saying that your skilful communication skills will be evident when you are negotiating and influencing.

Oriau - Llawn Amser - 37 awr yr wythnos

Cyflog – Graddfa K £40,858 - £43,757 y flwyddyn  

Lleoliad – Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Dyddiad cau ar gyfer y Cais - Dydd Llyn 4 Mehefin

Dyddiad Asesu i Ddewis - Dydd Gwener 15 Mehefin

I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag:

Ian Bancroft, Prif Swyddog ar gyfer Rhaglenni Strategol

Ffôn 01352 704180 neu e-bost ian.bancroft@flintshire.gov.uk

I weld y swydd ddisgrifiad llawn ac arweiniad ar sut i wneud cais, cliciwch yma.  

Swyddog Trawsnewid Cwsmeriaid (Cyfnod Penodol am 3 blynedd)

Gan weithio yn rhan o’r tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid sydd yn arwain newidiadau allweddol yn eu gwaith, bydd y swydd hon yn gyswllt rhwng Rhaglen Cyflawni Cwsmeriaid Digidol a newid i arferion gwasanaeth i gwsmeriaid.

Yn benodol byddwch yn arwain y gwaith o newid cynnwys y wybodaeth sydd ar y we er mwyn iddo fod yn fwy hygyrch ac yn lleihau'r galw am gyswllt dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Gan weithio gyda thimau gwasanaeth byddwch yn sicrhau unwaith y mae ymholiadau digidol yn cael eu derbyn, bydd y prosesau cywir ar waith i sicrhau y gellir ymdrin â'r ymholiad yn ddigidol o'r dechrau i'r diwedd.

Bydd hyn yn golygu bod angen i chi fod yn brofiadol wrth gyflawni gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio eich sgiliau digidol yn hyderus yn ogystal ag arwain gwaith gyda thimau i weithredu newidiadau a gwelliannau i ddylunio gwasanaeth i gwsmeriaid.

Oriau - Llawn Amser - 37 awr yr wythnos

Cyflog – Graddfa H £30,756 - £33,136 y flwyddyn  

Lleoliad – Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Dyddiad cau ar gyfer y Cais - Dydd Llyn 4 Mehefin

Dyddiad Asesu i Ddewis - Dydd Gwener 15 Mehefin

I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag:

Rebecca Jones, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chofrestru

Ffôn 01352 702413 neu e-bost rebecca.jones@flintshire.gov.uk

I weld y swydd ddisgrifiad llawn ac arweiniad ar sut i wneud cais, cliciwch yma.  

Ein Gweledigaeth

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyngor effeithlon, uchel ei berfformiad sydd ag enw da am arwain ac am weithredu modelau darparu gwahanol ac arloesol er mwyn cynnal gwasanaethau.

Rydym yn flaengar, yn gadarnhaol ynglŷn â photensial, wedi datblygu ein harbenigedd yn gyson ac wedi gweithredu gydag angerdd a gwytnwch er mwyn llwyddo. 

Rydym yn awr yn harneisio’r gallu sefydliadol hwn ac yn buddsoddi ar gyfer y dyfodol.

Adeiladu ar ein llwyddiant

Mae Cyngor Sir y Fflint ac arloesedd yn mynd law yn llaw.Yma yn Sir y Fflint rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau lleol ar gyfer pobl leol ac rydym yn gweithio’n agos â chymunedau, partneriaid, busnesau a'n gweithwyr i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau newydd, arloesol a chynaliadwy.

Am ddegawd bron erbyn hyn mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â phob Cyngor arall yn y DU, wedi bod yn rheoli canlyniadau'r gostyngiadau mewn cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Hyd yn oed yr adegau hyn o gynni cyllidol, mae'r Cyngor wedi parhau i fod yn uchelgeisiol a, drwy fod yn arloesol ac yn flaengar, wedi dal ati i ddiogelu a gwella gwasanaethau drwy wneud pethau'n wahanol, er enghraifft:

  • Cwmni Hamdden a Llyfrgelloedd Aura – cwmni newydd a grëwyd ac sy’n cael ei redeg gan gyn-weithwyr y Cyngo
  • Cwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd  - cwmni masnachu sydd ym mherchnogaeth lawn y Cyngor sy'n darparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo
  • Gweithio gyda chymunedau lleol a ddangosodd ddiddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb dros, a rhedeg gwasanaethau lleol e.e. Cambrian Aquatics ym mhwll nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden Treffynnon.
  • NEW Homes- cwmni masnachu ym mherchnogaeth lawn y Cyngor sy’n darparu cartrefi ar gyfer pobl leol
  • SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol)  - adeiladu tai Cyngor a thai fforddiadwy newydd
  • Double Click -menter gymdeithasol newydd sy'n darparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu
  • Uno chwech depo yn un cyfleuster newydd a mwy effeithiol yn Alltami
  • Arbed arian yn y modd yr ydym yn prynu a gyrru cerbydau’r Cyngor

Gweithio ar ran Sir y Fflint

Sir y Fflint,yw’r adwy i Gymru a bydd unrhyw un sy’n dod i weithio gyda ni yn darganfod sir wirioneddol hyfryd.

Fel cyflogwr rydym yn cydnabod mai ein hasedau mwyaf gwerthfawr yw ein pobl. Rydym yn ymdrechu i fod yn gyflogwr y bydd pobl yn ei ddewis drwy ddarparu amrywiaeth o fuddiannau sy'n ein helpu ni i sicrhau ymgysylltiad a chymhelliant ein gweithwyr.

I ddysgu mwy am fanteision gweithio i Gyngor Sir y Fflint cliciwch yma.

Oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad yr ydym yn chwilio amdanynt?

Credwn y bydd y tair swydd hon yn cyfrannu’n arwyddocaol tuag at ddarpariaeth ein hamcanion strategol. 

Mae arnom angen tri unigolyn talentog sydd â hanes o gyflawni, egni, brwdfrydedd ac arbenigedd i ymuno â ni a chwarae rhan allweddol yng ngham nesaf ein siwrnai o drawsnewid. 

Byddwch yn ‘weladwy’ yn y sefydliad a byddwch yn cael cyfleoedd arwyddocaol i wneud argraff strategol gan ryngweithio â phob rhan o'r Cyngor a chydweithio â'n partneriaid.

Am ddisgrifiadau llawn o’r swyddi ac arweiniad ar sut i wneud cais, ewch i’n tudalen swyddi

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.