Alert Section

Trefi Digidol (Sir y Fflint)


Pam ydym Angen Buddsoddiad Trefi Digidol?

Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau adfywio canol ein trefi lleol. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy’n arwain at dwf economaidd, yn ogystal â’u cynorthwyo i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. 

Mae canol ein trefi a’n dinasoedd yn wynebu nifer o heriau, sydd wedi eu gwaethygu gan y pandemig – er mwyn sicrhau bod ein trefi nid yn unig yn goroesi ond hefyd yn ffynnu, yr ydym angen eu hailddyfeisio a’u hailfywiogi yn lleoedd lle mae pobl eisiau treulio’u hamser.

Gyda chyllid Llywodraeth Cymru, Trawsnewid Trefi (Trefi Digidol), yr ydym wedi gallu darparu cyfarpar am ddim i Sir y Fflint ar gyfer cyfrif nifer yr ymwelwyr, er mwyn asesu lefelau cyfredol y siopwyr a’r ymwelwyr yng nghanol ein trefi, a chanfod ffyrdd i gynyddu faint o arian mae pobl yn ei wario yn ein trefi, a faint o amser y maent yn ei dreulio yno.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Trawsnewid Trefi, sy’n darparu cyllid ar gyfer adfywio canol trefi yng Nghymru. Mae canol trefi a dinasoedd yn rhan hanfodol a phersonol o dreftadaeth a chymuned Gymreig, ac mae rhaglen Trawsnewid Trefi wedi ymroi i wasanaethu a chysylltu’r bobl sy’n byw, gweithio, dysgu ac yn treulio amser hamdden yno.

Mae’r dyfeisiau presennol sy’n cyfrif nifer yr ymwelwyr yn Sir y Fflint yn brin, ac mae data ar gael ar gyfer pob 6 mis yn unig.  Heb wybodaeth gyfredol gywir, mae’n anodd gwneud penderfyniadau ‘amser real’.  Bydd y dyfeisiau newydd yn darparu data’n rheolaidd, gan gynorthwyo trefi i wneud y mwyaf o arferion a gofynion tymhorol, a chreu profiad siopa gwell.

Pa gyfarpar a osodir?

Mae dau fath o dechnoleg:

Dyfeisiau cyfrif pobl Cisco Meraki, sy’n defnyddio data anhysbys i roi trosolwg o’r ardaloedd a’r amseroedd mwyaf poblogaidd yn ein trefi.Dyma fideo YouTube byr ar ddyfeisiau cyfrif pobl Cisco Meraki, sydd am ddim, sy’n ymdrin ag effaith defnyddio’r dyfeisiau mewn lleoedd eraill yng Nghymru: https://www.youtube.com/watch?v=UjS6Gpr8TXs

Mae technoleg LoRaWAN yn ddull pŵer isel o edrych ar ardal eang sy’n defnyddio tonnau radio i anfon data o synwyryddion i’r rhyngrwyd. Bydd y synwyryddion yn mesur nifer yr ymwelwyr fel rhan o brosiect y dref. Gosodir synwyryddion prawf hefyd er mwyn profi sut y bydd ansawdd aer, y lleithder o gwmpas planhigion, a lefelau biniau sbwriel yn cael ei fonitro, a mathau eraill. Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i ymchwilio i botensial y technolegau hyn.
Mae’r Wyddgrug yn defnyddio dau fath o dechnoleg (Cisco Meraki a LoRaWAN), mae’r trefi eraill yn defnyddio un yn unig (LoRaWAN).
NID yw’r rhain yn ddyfeisiau 5G. Maent yn gweithio naill ai drwy WiFi sy’n debyg i gyfarpar yn y tŷ, neu drwy donnau radio pŵer isel sy’n debyg i hen signal analog teledu.

Cyllid Trefi Digidol

Sicrhawyd cyllid ‘Trefi Digidol’ o Gyllid Trefi Digidol Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu cynllun yn defnyddio technoleg mewn trefi yn Sir y Fflint.  Rhoddwyd synwyryddion Cisco Meraki am ddim i’r Wyddgrug gan Lywodraeth Cymru.

Diddordeb Cael Gwybod Mwy?

Cwestiynau Cyffredin