Alert Section

FastTrack


Mae FastTrack yn rhaglen taliad cynnar sydd yn rhoi’r cyfle i gyflenwyr gael eu talu yn gynt na’r telerau dan gytundeb. Mae hefyd yn gyfle i’r cyngor wella ei brosesau talu.

Mae’r FastTrack yn rhoi’r dewis i chi gael eich talu cyn gynted â fydd yr anfoneb wedi’i hawdurdodi, cyn eich telerau 30-diwrnod. Byddwch angen talu ad-daliad bychan a gytunwyd arno’n barod sydd wedi’i gynnwys wrth dalu’r anfoneb. Mae’r ad-daliad yn gyfatebol i’r nifer o ddyddiau y byddwn yn carlamu’r taliad erbyn.

Ein nod yw eich talu ar ddiwrnod 10. Dim ond os bydd yr anfoneb yn cael ei dalu yn gynt na 30 diwrnod y bydd yr ad-daliad yn cael ei gynnwys.

Buddion y FastTrack 

Credwn yn gryf bod perthnasau cadarn gyda chyflenwyr yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nodau strategol. Rydym yn cydnabod bod taliad cynnar yn gallu cael effaith sylweddol ar dwf a datblygiad eich busnes.

Gyda FastTrack byddwch yn elwa o:

  • welliant mewn llif arian
  • mwy o welededd ar draws y cyngor
  • treulio llai o amser yn mynd ar ôl daliadau

Ein partneriaid

Rydym yn gweithio gyda Oxygen Finance; prif ddarparwr y rhaglenni taliad cynnar yn y DU. Maen nhw’n gweithio gyda chynghorau ar draws y DU ac mae miloedd o gyflenwyr yn cymryd rhan yn eu rhaglenni taliad cynnar.

Y camau nesaf

Efallai y byddwch yn derbyn:

  • galwad ffôn gan Oxygen Finance yn egluro mwy am y rhaglen
  • e-bost gyda manylion am sut i ymuno â’r rhaglen ar-lein

I ddarganfod mwy am y rhaglen, gallwch:

  • Ymweld â’n tudalen we FastTrack
  • e-bost flintshire@oxygen-finance.com