Alert Section

Llefydd Chwarae Olwynog

https://api.flickr.com/services/rest/?method=flickr.photosets.getInfo&api_key=75cbb8b286a4ac215580520ea1ca75b2&photoset_id=72157631066224770

https://api.flickr.com/services/rest/?method=flickr.photosets.getPhotos&api_key=75cbb8b286a4ac215580520ea1ca75b2&photoset_id=72157631066224770

Yn Sir y Fflint, mae chwaraeon olwynog megis BMX, sgrialu, sgwteri, beiciau mynydd a sglefrio mewn llinell yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda phobl ifanc.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddarparu a datblygu llefydd i bobl ifanc gael at gyfleusterau sy’n annog cyfleoedd chwarae olwynog ac o ganlyniad mae’r defnyddwyr yn gwella’u sgiliau ac yn dod yn fwy hyderus wrth iddynt ddatblygu.

Mae gennym 10 o Lefydd Chwarae Olwynog mynediad agored ar draws Sir y Fflint. Nod pob safle yw darparu lle un pwrpas ar gyfer chwarae olwynog sy’n fwy ysgogol ac yn ddiogelach na llefydd megis strydoedd, canolfannau siopa ayb.  Mae hefyd yn lle ble gall pobl ifanc fwynhau eu hunain heb achosi niwsans i breswylwyr/cerddwyr.  Maent hefyd yn fan cyfarfod da i gael gwybod y newydd diweddaraf gan ffrindiau ac i hogi sgiliau.

Mae Llefydd Chwarae Olwynog wedi’u gwneud o’r deunyddiau a’r dulliau diweddaraf i sicrhau ansawdd y profiad reidio.  Mae pob Lle Chwarae Olwynog yn cael ei ddatblygu gyda’r gymuned leol ac mae golwg unigryw ar bob un o ganlyniad i’r ffaith fod y sglefrwyr/beicwyr o fewn y gymuned honno wedi bod â rhan wrth gynllunio a dewis yr elfennau reidio.  Gyda sglefrwyr a beicwyr lleol yn helpu i gynllunio’r parciau, i ddarparu’r llinellau a’r llif gorau posib, maen nhw hefyd yn dechrau cymryd perchnogaeth ar eu cyfleuster, gan arwain at lai o fandaliaeth a gwell cytgord cymunedol.

Hefyd Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy mae gan parc sglefrio dan do, gweler Esblygiad Eithafol am fwy o fanylion.

Rhestr y Safleoedd

Ychwanegiad diweddar yw’r cyfleuster math Trac Pwmpio sydd wedi’i anelu at ddefnyddwyr beiciau mynydd.  Mae dau o’r cyfleusterau hyn wedi’u lleoli yn: