Alert Section

Gwastraff Gardd

Sut i dalu

Ar-lein

Pob taliad ar-lein: £35.00

Dros y ffôn

Taliadau a wnaed cyn 1 Mawrth 2024: £35.00

Taliadau a wnaed ar neu ar ôl 1 Mawrth 2024: £38.00

(Bydd cynghorwyr Canolfan Gyswllt ar gael i helpu preswylwyr i gwblhau ceisiadau).  

Yn Sir y Fflint yn Cysylltu 

Taliadau a wnaed cyn 1 Mawrth 2024: £35.00

Taliadau a wnaed ar neu ar ôl 1 Mawrth 2024: £38.00

(Bydd cynghorwyr Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar gael i helpu preswylwyr i gwblhau ceisiadau).

Cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd

Os wnaethoch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth 2022 neu 2023, byddwch wedi derbyn math newydd o sticer gyda sglodyn RFID wedi’i fewnosod. Golyga hyn na fyddwch chi’n derbyn sticer newydd eleni, bydd yr un sydd eisoes wedi’i atodi i’ch bin yn gweithio unwaith eto. Rhowch eich bin brown allan i’w gasglu pan fydd y gwasanaeth yn ailddechrau a bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu.

Os na wnaethoch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn 2022 neu 2023, byddwch yn derbyn sticer a phecyn trwydded o fis Chwefror 2024 ymlaen, yn barod ar gyfer y tymor casglu newydd.

Beth sy'n digwydd i Wastraff Gardd?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu Gwastraff Gardd o bob rhan o’r sir ac yn ei droi’n gynnyrch cyflyru pridd hynod gyfoethog. Cesglir tua 12,000 tunnell o wastraff gwyrdd o gartrefi Sir y Fflint, Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HRCs), ymyl ffyrdd, parciau a gerddi bob blwyddyn.

Mae'n cael ei gludo i safle compostio'r Cyngor ei hun ym Maes Glas. Dim ond llystyfiant fel glaswellt, canghennau, a dail y gellir eu cludo i'r safle, ni ellir derbyn eitemau fel pridd, cardbord neu blastig.

Cwestiynau Cyffredin

Nid yw’r sticer y cefais yn 2022 neu 2023 ar fy min bellach

Yn gyntaf, sicrhewch mai’r sticer sydd yn y llun isod yw’r un yr ydych yn cyfeirio ato:

RFID

Os yw’r sticer a gawsoch ar gyfer tymor casglu 2022 neu 2023 wedi cael ei dynnu, neu nid yw bellach ar eich bin ac rydych eisiau un newydd, gallwn roi un newydd i chi (sylwer y bydd sticer newydd yn dirymu’r sticer blaenorol).

Pa mor aml mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu?

Rydym yn casglu gwastraff gardd bob pythefnos, bob yn ail wythnos gyda chasglu’r bin du. Mae eich bin ailgylchu a gwastraff bwyd yn cael ei gasglu’n wythnosol.

Mae casgliadau Gwastraff Gardd rhwng 1 Mawrth a 14 Rhagfyr ar gyfer tymor 2024.

I wirio eich diwrnod casglu, gwiriwch ein tudalen Gwirio eich Diwrnod Biniau 

Ble ydw i’n gosod y sticer RFID?

Gosodwch y sticer yn defnyddio’r cyfarwyddiadau amgaeedig yn y pecyn tanysgrifio. Mae hyn yn caniatáu i’r darllenwyr ar y cerbydau ddangos taliad a sicrhau nad yw’r sticeri yn cael eu difrodi gan yr offer codi. 

Ni fydd y criwiau casglu’n casglu unrhyw finiau gwastraff gardd heb sticer arnynt.  

Llynedd tanysgrifiais am nifer o finiau ond eleni dim ond un bin dwi angen, sut ydw i’n gwybod pa sticer/bin i roi allan?

Bydd y system meddalwedd yr ydym yn ei ddefnyddio yn adnabod yn awtomatig os yw eich eiddo gyda mwy nag un sticer RFID ar ei gyfer. Os oes gan eich eiddo sawl rhif RFID ar ei gyfer ond mai dim ond talu am un tanysgrifiad yr ydych chi, yna gallwch roi unrhyw un o’ch biniau allan ac mi fydd y darllenydd RFID ar y cerbyd yn derbyn y bin hynny. 

Fodd bynnag, os oeddech yn rhoi ail fin allan er enghraifft (nad ydych wedi talu amdano) bydd y darllenydd RFID yn rhoi gwybod i’r criw nad ydych wedi talu am yr ail fin ac ni fyddan nhw’n ei gasglu. 

Nid oes raid i chi wneud unrhyw beth arall ond rhoi’r nifer o finiau a dalwyd amdanynt allan ar gyfer bob diwrnod casglu.

Beth os ydw i’n cofrestru a bod y bin brown neu’r sticer cofrestru'n cael ei ddwyn?

Gofynnwn i chi holi eich cymdogion i wneud yn siŵr nad ydyn nhw wedi mynd â’ch bin brown chi mewn camgymeriad. Os nad ydynt, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib' er mwyn i ni allu ymchwilio i'r mater. Bydd y sticer RFID yn rhoi gwybod i ni os yw’r bin brown wedi’i roi allan yn y cyfeiriad anghywir a gellir dadactifadu’r sticer.

Mae’r sticeri wedi eu cynhyrchu gydag adlyn lefel uchel, sy’n gwrthsefyll tywydd. Unwaith y byddant wedi eu gosod, maent yn anodd eu tynnu. 

Rydym yn eich annog i farcio eich bin brown gyda rhif eich tŷ neu’r cyfeiriad i wneud eich bin yn hawdd ei adnabod.  Cyfrifoldeb deiliad y tŷ yw sicrhau bod eu bin brown yn cael ei storio'n ddiogel.  Os oes bin ar goll, bydd angen talu £30 am un newydd (h.y. cost y bin). 

Beth os yw fy sticer wedi’i ddifrodi/ar goll?

Eich cyfrifoldeb chi yw’r bin brown, a dylech sicrhau bod eich sticer yn parhau’n amlwg.  Fodd bynnag, os yw wedi’i ddifrodi/ar goll, ffoniwch y llinell gymorth a bydd swyddog yn gwirio eich manylion ar ein system ac, os oes angen, yn dod i ymweld â’r safle.

Mae gan breswylydd fwy nag un bin a sticer

Os yw preswylydd wedi talu am fwy nag un bin i’w wagu, yna bydd pob bin yn derbyn sticer RFID newydd.

Beth os ydw i am wneud cais am ad-daliad?

Defnyddiwch y ffurflen gais ad-dalu i wneud cais am ad-daliad ar eich taliad 2023 gan nodi’n glir y rheswm dros yr ad-daliad.  Bydd y ffurflen hon yn eich arwain drwy’r wybodaeth y mae ei hangen arnom i asesu cais am ad-daliad.  Unwaith y byddwn wedi ei asesu byddwch yn cael gwybod y canlyniad o fewn 10 diwrnod. 

Pam ydych chi wedi newid i sticeri RFID? 

Rydym wedi bod yn gwneud gwelliannau i’r ffordd mae’r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu yn gweithredu megis tracio cerbydau, telemateg a theledu cylch caeedig 360 gradd ym mhob un o’n cerbydau casglu.  Mae’r cyfan yn ein helpu i wneud ein gwasanaethau yn fwy effeithlon, yn gwella’r wybodaeth sydd ar gael i breswylwyr ac yn cyfrannu tuag at ein targed o ailgylchu 70%.

Yn 2020 cynhaliwyd treial llwyddiannus gan ddefnyddio sticer electronig ar gyfer biniau brown, a elwir yn RFID (adnabod amledd radio).  

Yn 2022, fe wnaethom gyflwyno sticer newydd, sy’n cynnwys tag RFID (adnabod amledd radio) i bob aelwyd sy’n tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth casglu.  Y bwriad yw gosod y sticeri electronig, sy’n gweithio’n debyg i dagiau neu sticeri diogelwch mewn siopau, ar y bin brown a’u cofrestru ar gyfer pob eiddo.  Bwriedir i’r sticer electronig gael ei sganio’n awtomatig gan ddarllenydd sglodyn ar y lifft bin ar gefn y lori bin i gadarnhau bod yna danysgrifiad a’i gwneud yn haws i’r criwiau nodi bod y bin yn gymwys ar gyfer casglu. Mae’r darllenydd sglodyn yn debyg i sganiwr archfarchnad neu ddarllenydd cod bar a’r unig ddata a gesglir yw bod y bin wedi’i gasglu.

Mae’r defnydd o sticeri RFID yn ein helpu i adnabod ar unwaith os yw’r casgliad wedi’i fethu, cofnodi’r biniau wedi’u gwagio a chadarnhau fod yr holl finiau ar y rownd wedi’u prosesu.

Pa mor hir y mae’r sticeri hyn yn para?  

Mae’r sticer RFID newydd yn hynod o gryf ac yn aros ar eich bin am nifer o flynyddoedd i ddod ac yn cael ei actifadu bob blwyddyn pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y tanysgrifiad blynyddol neu’n cael ei ddadactifadu os dewiswch i beidio â chofrestru. 

Ar gyfer beth mae’r cod QR? 

Bydd eich cod QR (Ymateb Cyflym) a ellir ei sganio gyda’ch ffôn symudol yn eich arwain yn uniongyrchol i wefan Sir y Fflint lle gallwch wirio eich (calendr) diwrnod biniau neu ddarganfod mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu.  

Sut y mae’r sticer yn gweithio?

Bydd y sticer electronig yn cael ei sganio’n awtomatig gan ddarllenydd sglodyn ar lifft y bin ar gefn y cerbyd i gadarnhau bod tanysgrifiad wedi cael ei dalu. Dim ond yn ystod y broses gwagio y gall y darllenydd sydd ar y cerbyd casglu gofnodi’r sticer.

Pan fydd y bin yn cael ei gyflwyno i’r cerbyd bydd yna olau gwyrdd yn ymddangos os yw’r tanysgrifiad wedi’i dalu, yna bydd y bin yn cael ei wagio. Bydd golau coch yn ymddangos os nad yw tanysgrifiad wedi’i dalu a dychwelir y bin i’r eiddo heb ei wagio.

Yr unig ddata a fydd yn cael ei gofnodi ar y darllenwyr yw bod y bin wedi cael ei gasglu.  Bydd y wybodaeth yn cael ei fonitro gan ein staff gweithredol ac yn rhoi gwybod i ni pa finiau sydd wedi cael eu casglu ai peidio ar y rownd.  Bydd hefyd yn dangos cynnydd ein cerbydau casglu. Bydd y wybodaeth hefyd yn helpu gydag ymholiadau gan breswylwyr trwy’r Ganolfan Gyswllt.

Beth fydd yn digwydd gyda fy nata o’r sticeri?

Nid yw’r sticer hwn yn dal unrhyw ddata personol, dim ond rhif cyfeirnod unigryw sy’n benodol i’ch cyfeiriad. Bydd y sticer electronig yn cael ei sganio’n awtomatig gan ddarllenydd sglodyn ar lifft y bin yng nghefn y cerbyd i gadarnhau eich bod wedi tanysgrifio.  Gweler yr hysbysiad preifatrwydd os gwelwch yn dda.

A fydd y sticer yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol?

Ni fydd y sticer yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Bydd yn cynnwys rhif cyfeirnod unigryw (fel yr hen sticer neu’r sticer bresennol) y gellir ei drawsgyfeirio i gyfeiriad yr eiddo ar gronfeydd data'r swyddfa gefn fel ein bod yn gwybod bod y bin wedi cael ei gasglu.  Gweler yr hysbysiad preifatrwydd os gwelwch yn dda.