Alert Section

Cyflogi Plant


Dalen Gwybodaeth

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (Diwygiedig)

Rhaid i blentyn oedran ysgol sy’n byw yn Sir y Fflint ac sy’n dymuno cael ei g/chyflogi ymgeisio am:


Drwydded Waith

Mae is ddeddfau sy’n penderfynu ar y math o waith gall plant ei wneud a’r oriau y gallant weithio. Mae rhagor o gyngor ar gael gan eich Awdurdod Addysg Lleol.

Cysylltwch a childlicences@flintshire.gov.uk.

Gwybodaeth Trwydded Waith

Mae ffurflen gais am drwydded gwaith ynghlwm.  Rhaid iddi gael ei chwblhau gan rieni / gwarcheidwaid a’r cyflogwr. Mae gan eich plentyn gyfrifoldeb i rannu gyda chi yr Asesiad o unrhyw risg y gellid  ei wynebu wrth ymgymryd â'r gwaith. 

Ffurflen Gais Rhieni

Ffurflen Gais Y Cyflogwr

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at childlicences@flintshire.gov.uk.


13 Blwydd oed neu drosodd (ond o dan 15)

Er mwyn cymryd gwaith rhan amser rhaid I blant fod yn 13 Blwydd oed neu drosodd. Os ydych yn 13 Blwydd oed neu drosodd (ond o dan 15) ni ddylech weithio rhagor na’r canlynol ar gyfer boreau, nosweithiau, Sadwrn neu Wyliau Ysgol, dydd Sul neu Uchafswm Wythnosol:

Bore

Gweithio uchafswm o 1 awr rhwng 7.00am a dechrau’r

Gyda’r Nos

Gweithio uchafswm o 2 awr rhwng cau’r ysgol a 7.00pm (Nodwch: Dim ond 1 awr a ellir weithio os yw’r plentyn wedi gweithio cyn mynd I’r ysgol)

Dydd Sadwrn neu Wyliau Ysgol

Uchafswm o 5 awr y dydd (ac eithrio egwyliau ar gyfer prydau neu orffwys)

Dydd Sul

Uchafswm o 2 awr

Uchafswm Wythnosol

Amser Tymor – 12 awr
Amser Gwyliau – 25 awr


15 Mlwydd oed  a heb gyrraedd oedran gadael ysgol

Os yw’r plentyn yn chow;io am waith yn 15 Mlwydd oed  a heb gyrraedd oedran gadael ysgol (Ybydd Gwener diwethaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fo’r plentyn yn cyrraedd 16 mlwydd oed) yna mae’r criteria canlynol yn berthnasol. Mae'r un peth yn berthnasol fel gyda'r uchod ar gyfer 13 oed neu'n hŷn (ond o dan 15) ar wahân i Dydd Sadwrn neu Wyliau Ysgol Uchafswm Wythnosol a. Gweler isod:

Dydd Sadwrn neu Wyliau Ysgol

Uchafswm o 8 awr y dydd (ac eithrio egwyliau ar gyfer prydau neu orffwys)

Uchafswm Wythnosol

Amser Tymor – 12 awr
Amser Gwyliau – 35 awr


Pwysig

Rhaid i bob plentyn gael o leiaf ddwy wythnos yn olynol heb weithio yn ystod gwyliau ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a dim mwy na 4 awr i gael eu gweithio'n barhaus heb doriad.