Alert Section

Ymddygiad


Energ

Mae newid hinsawdd yn rhaglen newid ymddygiad. Mae newid ymddygiad yn rhan fawr o weithredu ar yr hinsawdd ac mae llwyddiant uchelgeisiau hinsawdd y Cyngor a’r genedl ehangach yn dibynnu ar ein holl weithredoedd. Mae cyfathrebu ac ymgysylltu yn allweddol ar gyfer sicrhau bod yr uchelgeisiau a nodir yn y strategaeth hon yn rhan annatod o ddiwylliant ac ethos y Cyngor. 

Climate Change - Behaviour Cym

 

Cefnogi gwasanaethau’r Cyngor i addasu i effeithiau newid hinsawdd a dirywiad ym myd natur.

Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:

  • Mae offer gwneud penderfyniadau allweddol, megis Asesiad o Effaith Integredig, templed achos busnes Gwariant Cyfalaf, Cynllun Rheoli Asedau, Strategaeth Gaffael a ffurflen diwydrwydd dyladwy o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cael eu hadolygu i adlewyrch dyheadau carbon. Ymarfer parhaus i ganfod ac adolygu polisïau gwneud penderfyniadau allweddol eraill.
  • Mae camau wedi cael eu cymryd wrth bontio tuag at fod yn ‘Gyngor di-bapur’ drwy ddarparu caledwedd er mwyn i Aelodau allu cael mynediad at Becynnau Adroddiad yn ddigidol. Ar ôl Mai 2022, roedd cofrestru Aelodau Etholedig newydd yn cynnwys iPad a gliniadur er mwyn tynnu’r angen am becynnau adroddiad papur. Yr arfer diofyn yw nad yw copïau papur o adroddiadau yn cael eu hanfon allan. Mae’r broses yn dal i fynd rhagddo er mwyn canfod rhwystrau eraill a chyflawni gwaith ymgysylltu i wella newid ymddygiadol. 
  • Ym mis Tachwedd 2022, fe lansiom ein E-newyddlen newid hinsawdd, a blwyddyn yn ddiweddarach mae 1,160 o dderbynyddion. Mae’r newyddlen yn tynnu sylw at brosiectau allweddol, gwybodaeth ddefnyddiol a digwyddiadau lleol a chenedlaethol sydd ar y gweill.
  • Rydym yn parhau i ddatblygu ein tudalen gwe er mwyn hysbysu trigolion ar strategaeth hinsawdd y cyngor a’n cynnydd tuag at Garbon Sero Net. Wrth ddarparu gwybodaeth hefyd ar sut all drigolion leihau eu hallyriadau eu hunain. 
  • Rydym wedi datblygu rhwydwaith datgarboneiddio ar gyfer ardal ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy er mwyn datblygu nodau ac amcanion a rhannu arferion da.
  • Mae Aelodau Etholedig a Gweithwyr Uwch y Cyngor wedi mynychu hyfforddiant Llythrennedd Carbon. Modiwlau E-ddysgu ar gyfer newid hinsawdd a bioamrywiaeth yn cael eu datblygu fel rhan o gomisiynau rhanbarthol.
  • Mae rhaglen newid hinsawdd wedi datblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu, sy’n darparu digwyddiadau a gweithgareddau ar newid hinsawdd ar gyfer budd-ddeiliaid mewnol ac allanol trwy gydol y flwyddyn. 

Camau gweithredu yn y dyfodol

Byddwn yn:

  • Ymgysylltu â gweithwyr ac Undebau Llafur i adnewyddu disgrifiadau swydd i gynnwys cyfrifoldebau newid hinsawdd
  • Hwyluso gwirfoddoli corfforaethol ar gyfer gweithredu yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.