Alert Section

Allyriadau carbon y Cyngor


Green energy

Dros nifer o flynyddoedd, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon drwy strategaethau lleihau carbon rhagweithiol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae tua 60% o allyriadau carbon y Cyngor o ffynonellau ynni wedi eu lleihau drwy raglenni rhagweithiol gan gynnwys trosi goleuadau stryd i LED, defnyddio mesurau effeithlonrwydd ynni ar draws ei asedau, ac arwain y ffordd gyda chynlluniau ynni adnewyddadwy fel dal solar a methan. 

Mae popeth a wnawn yn cael effaith ar yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo; o losgi tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi i gasglu gwastraff wrth ymyl y ffordd ac ailgylchu. Mae Cyngor Sir y Fflint yn adrodd ei ôl troed carbon i Lywodraeth Cymru fel tunelli o garbon deuocsid cyfwerth (tCO2e) o fewn ei ffiniau sefydliadol a gweithredol. Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â gweithrediadau mewnol y Cyngor sef:

  • Adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor a sy’n cael eu gweithredu ganddo gan gynnwys swyddfeydd, depos, ysgolion, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal, cyfleusterau cyhoeddus a goleuadau stryd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwres, trydan a dŵr yn y cyfleusterau hyns.
  • Cerbydau fflyd sy’n eiddo i’r Cyngor.
  • Teithio ar fusnes i’r gwaith.
  • Cymudo gweithwyr.
  • Caffael nwyddau a gwasanaethau.

Nid yw’r cwmpas yn cynnwys:

  • Eiddo domestig,
  • Adeiladau sy’n eiddo i ni sy’n cael eu prydlesu a’u gweithredu gan drydydd partïon.

Er mwyn gwybod ble’r ydym a ble mae angen inni fod, mae angen inni edrych yn gyntaf ar ein ffigurau sylfaenol. Yn 2018/19 llwyddon ni i gasglu’r data a nodir isod. Mae Ffigur 1 isod yn dangos dadansoddiad o allyriadau nwyon tŷ gwydr fesul ffynhonnell allyriadau ar gyfer 2018/19*.

Mae’r Cyngor wedi nodi nodau ym mhob un o’r themâu amcanion allweddol. Mae gan bob un o’r amcanion hyn nifer o gamau gweithredu eang. Mae’r nodau lleihau yn seiliedig ar linellau sylfaen 2018/19 ar gyfer pob thema.

Net Zero Carbon by 2030 cym

 


Dylid nodi bod y data wedi ei gasglu gan ddefnyddio’r dulliau gorau sydd ar gael bryd hynny, ac felly’r disgwyliad yw y bydd cywirdeb data yn gwella gyda methodolegau sy’n dod i’r amlwg.