Hafan>
Hafan > Preswyl > Archif Newyddion

Archif Newyddion

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Newydd i Sir y Fflint

Published, 03/05/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod y gwaith ar Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd yn Rockcliffe yn dechrau.
Bydd y safle newydd yn dilyn dyluniad sydd wedi'i rannu'n sawl lefel, a fydd yn cael gwared â grisiau a phlatfformau i gael mynediad at sawl man ailgylchu. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyffordd diwygiedig gydag arwyddion ar yr A548 hefyd i wella mynediad i'r safle arfaethedig.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
"Bydd y datblygiad newydd yn Rockcliffe yn cwblhau rhaglen uwchraddio i'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y TÅ· presennol a'u trawsnewid yn unol â safonau modern. Bydd y datblygiad newydd yn gwella ein ffigurau ailgylchu ymhellach, gyda'r fantais o hygyrchedd i'n defnyddwyr."


Share this information

Newyddion Sir Y Fflint

Twitter Sir y Fflint