Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cabinet yn ystyried Safonau’r Gymraeg

Published: 14/07/2017

Fis nesaf bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r cynnydd sydd wedi ei wneud i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg o’r Adroddiad Iaith Blynyddol, y cynnydd sydd wedi ei wneud er mwyn cyrraedd y safonau ar meysydd sydd angen eu gwella. Diben cyffredinol y safonau yw datblygu a pharhau â gwaith y cynlluniau iaith blaenorol. Nod y safonau yw cynyddu nifer y bobl syn defnyddio gwasanaethau Cymraeg ac maent yn cynnig arweiniad i sefydliadau ar yr hyn sydd ei angen arnynt i gyrraedd y nod hwn. Maer rhan fwyaf or safonau yn cyd-fynd âr ymrwymiadau a nodwyd yng Nghynllun Iaith Gymraeg blaenorol y Cyngor ac maer Cyngor yn parhau i wella mewn nifer o feysydd fel cyflwyno’r ‘Fframwaith Mwy na Geiriau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gan eu rhoi mewn sefyllfa ardderchog i gyrraedd y safonau a darparu gwasanaethau dwyieithog. Erbyn 31 Mawrth eleni, roedd 82% o staff y Cyngor wedi cwblhaur archwiliad sgiliau iaith Gymraeg (40% y llynedd). Bydd mentrau pellach i wellar gyfradd ymateb ir archwiliad yn cael eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf. Mae mwy o weithwyr yn derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg oi gymharu â 2015/16. Bu ir Comisiynydd Iaith ymchwilio i ychydig o gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg. Roedd y rhain yn ymwneud â chamsillafu geiriau ar arwyddion, gohebiaeth uniaith Saesneg, cwrs addysg ddim ar gael yn Gymraeg a’r amser a gymerwyd i ateb llinellau ffôn Cymraeg. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gellir cyrraedd y safonau newydd yn ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig o ardal y Cyngor. Er ein bod ni wedi derbyn cwynion, rydym ni parhau i gysylltu â’r Comisiynydd ac rydym ni’n gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion. “Maer Cyngor hefyd yn datblygu Strategaeth Hyrwyddor Gymraeg pum mlynedd o hyd a pholisi ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle er mwyn sicrhau ein bod yn codi proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a’r cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.