Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi mannau gwyrdd blaenllaw

Published: 18/07/2017

Cyngor Sir y Fflint a Pharc Treftadaeth Maes Glas yn cael Gwobr y Faner Werdd Heddiw (Dydd Mawrth 18 Gorffennaf), mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o ansawdd. Mae cyfanswm o 183 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi bodloni’r safon uchel sydd ei angen i gael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Bydd y baneri yn chwifio ym Mharc Gwepra a Pharc Treftadaeth Maes Glas i gydnabod y cyfleusterau ardderchog a’r ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o safon uchel. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae hwn yn gyflawniad arbennig, da iawn bawb! Llongyfarchiadau i bawb am eu gwaith caled wrth gynnal a chadw’r parciau i safon uchel, ymrwymiad sydd bellach wedi ei gydnabod.” Dywedodd Ymddiriedolwr Dyffryn Maes Glas, Mary Auty: Mae hyn yn newyddion gwych, llongyfarchiadau mawr ir holl wirfoddolwyr, diolch yn fawr iawn i bawb syn rhoi ou hamser i ofalu am y gofodau hyn. Caiff cynllun Gwobr y Faner Werdd ei gyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â’r safleoedd sy’n gwneud cais a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae Gwobr y Faner Werdd yn ymwneud â rhoi pobl mewn cysylltiad â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau. Maen bleser gan Gadwch Gymru’n Daclus gynnal y cynllun yng Nghymru am ein bod yn gwybod y gall cael amgylchedd o ansawdd da gael effaith fawr ar ein cymunedau, ein hiechyd a’n lles a’r economi. “Hoffwn longyfarch a diolch i bawb wnaeth weithio’n ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr y Faner Werdd yn galw amdanynt. Rwyf yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored ac archwilio’r ystod amrywiol o gyfleusterau rhagorol sydd ar drothwy ein drws.” Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/greenflag