Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant y dreth gyngor i bensiynwyr yn parhau

Published: 07/07/2014

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno parhau i ddarparu’r grant treth gyngor yn 2014-15 i bobl dros 60 oed y Sir sydd eisoes yn derbyn Cymhorthdal y Dreth Gyngor. Ei nod yw darparu cymorth ariannol i’r pensiynwyr hynny sydd angen mwyaf o help. Roedd y cynllun grant yn fenter a oedd yn cael ei ariannu’n benodol gan Lywodraeth Cymru ac roedd wedi bod yn rhedeg ers pedair blynedd, ond eleni mae’r grant yn cael ei dalu yn ôl disgresiwn y Cyngor. Cafodd parhad y grant gefnogaeth eang yng nghyfarfod diweddar cabinet Sir y Fflint ac mae gwaith yn cael ei gwneud bellach i dalu’r grantiau fel mater o drefn i bob cartref cymwys ar ddechrau Gorffennaf 2014. Disgwylir i dros 2,200 o gartrefi pensiynwyr fod yn gymwys am grantiau hyd at uchafswm o £95 ac ni fydd angen i’r pensiynwyr lenwi unrhyw ffurflenni cais. Wrth sôn am weithrediad y cynllun grant, meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton “Ar adeg pan fo llywodraeth leol yn wynebu heriau mawr wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus, rwy’n falch o gyhoeddi parhad y cynllun hwn yn ystod 2014-15”.