Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailwynebu Cerbytffordd yr A541 Ffordd Caer; Yr Wyddgrug

Published: 31/07/2017

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi cael ei ddiogelu er mwyn ail-wynebu’r gerbytffordd a gwneud gwaith cysylltiol ar yr A541 Ffordd Caer, Yr Wyddgrug, rhwng cylchfan Tesco a chylchfan Wylfa gan ddechrau ddydd Llun 7 Awst 2017 am tua thair wythnos. Er mwyn hwyluso’r gwaith bydd cyfyngiad un ffordd dros dro mewn lle o nos Lun 7 Awst, yn gwahardd cerbydau rhag teithio ir Wyddgrug o gylchfan Wylfa. Bydd cerbydau yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A494 a’r A5119, New Brighton. Bydd y cyfyngiad unffordd yn ei le dros gyfnod y gwaith er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu sy’n gwneud y gwaith a defnyddwyr y briffordd. Bydd mynediad i eiddo a busnesau unigol yn cael ei gynnal, er maen bosib y bydd peth oedi. Mae’r Cyngor a’r contractwr Roadway Civil Engineerig Ltd, yn ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi, a byddwn yn gwneud y gwaith cyn gynted ag y gallwn. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Dwi wrth fy modd ein bod wedi gallu dod hyd i gyllid o fewn y cyfyngiadau ariannol i ariannu’r cynllun allweddol hwn i gynnal a chadw un or prif lwybrau mewn ir Wyddgrug, ac mae hyn unwaith eton arddangos ymrwymiad y weinyddiaeth bresennol tuag at y rhwydwaith priffyrdd. Rwy’n ymwybodol bod y tair wythnos nesaf yn mynd i fod yn anodd i gymudwyr a busnesau, ond er mwyn helpu i liniaru’r amhariad, trefnwyd y gwaith rhwng dau o brif ddigwyddiadau’r dref - Gwyl Canu’r Enaid a Chanu Glas Gogledd Cymru a’r Wyl Fwyd.”