Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn Croesawu Ymwelwyr o Japan

Published: 03/08/2017

Yn ddiweddar cynhaliodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Brian Lloyd, Dderbyniad Dinesig er mwyn croesawu chwe myfyriwr o Japan i’r sir. Mynychwyd y derbyniad gan 40 o bobl, gan gynnwys dehonglydd, Mr Koki Kinouchi, er mwyn helpu’r myfyrwyr i fwynhau eu noson. Mae’r rhaglen hon yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau addysgol a diwylliannol ar gyfer gwesteion Japaneaidd, gan gynnwys ymweliadau â Llundain, Lerpwl, Rhydychen, Caer, Castell y Waun, Bae Colwyn, Castell Conwy, Llandudno a’r Wyddgrug. Ar ôl rhan Cymru o’r rhaglen, bydd ein myfyrwyr ni o Sir y Fflint yn ymweld â Miyagi Prefecture lle mae’r cyfnewid wedi bod yn digwydd ers 1991. Y myfyrwyr Japaneaidd yw Arisa Inoue, Kohei Sato, Miki Numata, Rika Sato,Tomoko Oyama a Yukito Numata Y myfyrwyr o Sir y Fflint a fydd yn teithio i Japan yw: Cassia Hashempour, Ellie Harper, Megan Owens, Phoebe Lewis, Sophie Hodby a Samuel Wiggs Meddai Cynghorydd Lloyd: Mae’n bleser mawr gen i groesawu ein hymwelwyr o Japan. Rwy’n gobeithio y byddant yn mwynhau eu hymweliad ac yn ei weld yn brofiad gwerthfawr. Mae’r cyfnewid hwn yn rhoi cyfle gwych i’r ddwy wlad ddysgu am ffordd wahanol o fyw. Bydd y myfyrwyr yn aros gyda theuluoedd, gan mai dyma’r ffordd orau o ddysgu; drwy drochi eu hunain yn yr iaith a’r diwylliant ac mewn amgylchedd gofalgar gyda’u cyd-fyfyrwyr i’w cefnogi, byddant gyda gobaith yn cael mewnwelediad da i’n ffordd ni o fyw. “Rwy’n gobeithio y gwnaiff y cyfnewid barhau am flynyddoedd i ddod gan ei fod yn gyfle mor wych.” I fod yn gymwys i wneud cais am le ar y cynllun cyfnewid y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid i fyfyrwyr fod yn 16-18 oed ar 1 Medi 2017, mewn addysg llawn amser yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint. Er mwyn cael syniad o’r hyn y bydd y cynllun cyfnewid yn ei olygu i fyfyrwyr a’u teuluoedd, bydd noson gyflwyno’n cael ei chynnal nos Lun, 23 Hydref am 6.30pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Bydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun eleni’n rhoi cyflwyniad ar eu profiadau a’r manteision maen nhw wedi’u hennill yn sgil hynny. Bydd rhieni’r myfyrwyr hefyd yn rhoi mewnwelediad i’r cynllun o’u persbectif nhw. Bydd ffurflenni cais ar gyfer y cynllun cyfnewid ar gael ar y noson neu drwy gysylltu â Karen Jones ar 07759295984 neu drwy anfon e-bost at karen.jones@flintshire.gov.uk. Noddir y cynllun cyfnewid gan Ymddiriedolaeth Cyfnewid Ieuenctid Japaneaidd Optec Sir y Fflint yn ogystal â grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan Toyota UK yng Nglannau Dyfrdwy a Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr, sy’n cefnogi rhaglenni addysgol Japaneaidd. Yn y llun gwelir y myfyrwyr o Japan a Sir y Fflint gyda rhieni, gwarcheidwaid, trefnwyr, ymddiriedolwyr, a Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Brian Lloyd a Mrs Jean Lloyd.