Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Tân a’r Cyngor i ymweld â thrigolion lleol

Published: 04/08/2017

Bydd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn ymweld â blociau o fflatiau yn ystod mis Awst gyda Bws Cymunedol y Gwasanaeth Tân. Nod y digwyddiadau hyn yw hybu diogelwch tân yn y blociau ac ateb unrhyw bryderon sydd gan y tenantiaid mewn perthynas â diogelwch tân. Cynhelir yr ymweliadau fel a ganlyn: Dyddiad ac amser yr ymweliad Castle Heights a Knights Green Y Fflint 14.8.17 10am-4pm Alyn Meadows ac Acacia Close Yr Wyddgrug 15.8.17 10am-12:30pm Acacia Close Yr Wyddgrug 15.8.17 1-4pm Plas Dewi, Llwyn Aled a Llwyn Beuno Treffynnon 16.8.17 10am-4pm Prince of Wales Court Bwcle 17.8.17 10am-4pm Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rydym wedi trefnu’r ymweliadau hyn i dawelu meddwl ein tenantiaid ac i ateb unrhyw gwestiynau. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith sylweddol yr ydym eisoes wedii wneud i dawelu meddyliau ein trigolion bod yr adeiladaun ddiogel. Bydd swyddogion tân a swyddogion y cyngor wrth law i roi gwybodaeth ar y mesurau sydd mewn lle ac i dawelu meddwl trigolion am ein hymrwymiad ni fel cyngor i’w diogelwch personol.”