Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


B5101 Ffrith

Published: 08/08/2017

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn parhau i fonitro’r sefyllfa ar y rhan o’r B5101, Ffrith, sydd wedi ei effeithio gan dirlithriad diweddar ar yr arglawdd uwchben y ffordd. Mae archwiliadau cychwynnol wedi codi pryderon ynghylch strwythur sylfaenol y ffordd ac mae cyflwr arwyneb y ffordd yn parhau i waethygu oherwydd ansadrwydd yr arglawdd uwch ei phen. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio ir ffactorau cyfrannol posibl a allai fod wedi arwain at y digwyddiad, ac mae’r Cyngor wedi comisiynu peiriannydd daear-dechnegol arbenigol i ymgymryd ag ymchwiliad tir manylach, a fydd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwaith adferol yn y safle. Mae’r Cyngor yn adolygu opsiynau i agor y ffordd cyn gynted â phosibl, fodd bynnag, o ystyried natur y gwaith angenrheidiol, maen debygol y bydd y ffordd yn parhau ar gau yn y dyfodol agos. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae’r Cyngor yn bwriadu cynnal cyfarfod cyhoeddus lleol gyda’r gymuned a’n partneriaid nos Fawrth 15 Awst am 7pm, yng Nghanolfan Gymunedol Ffrith, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhai yr effeithir arnynt gan y ffordd sydd wedi cau.”