Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Cyngor Sir y Fflint ar Deithio Llesol

Published: 08/08/2017

3 Gorffennaf i 24 Medi 2017 Mae dal amser i chi ddweud eich dweud ar Fap Rhwydwaith Integredig Drafft Teithio Llesol Cyngor Sir y Fflint. Estynnir gwahoddiad i’r cyhoedd edrych ar y map a’r atodlenni sydd ar gael ar lein yn http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Active-Travel-Integrated-Ne twork-Map-Consultation.aspx. Cynhelir y sesiwn alw heibio cyhoeddus olaf ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint ar 5 Medi 2017 rhwng 2pm a 7pm. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Maer Ddeddf Teithio Llesol y cyntaf o’i math yng Nghymru, ac yn rhoi cyfle i ni wneud Cymru yn genedl teithio llesol. Mae Sir y Fflint wedi mapio ei gynigion ar gyfer gwella isadeiledd cerdded a beicio dros gyfnod 15 mlynedd y cynllun. Rydym eisiau adborth y cyhoedd ar y cynigion i helpu i siapio’r Map Rhwydwaith Integredig cyn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ym mis Tachwedd i gael ei gymeradwyo”