Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safleoedd Hynafol Sir y Fflint mewn Gwlân Cymreig

Published: 16/07/2014

Mae rhaglen wirfoddol i bobl hyn yn cynnal prosiect celf i roi cyfle iddynt weithio ochr yn ochr â’r artist ffelt broffesiynol, Helen Melvin. Gan ddefnyddio gwlân naturiol, llifynnau naturiol a dulliau ffeltio cynnar, maent wedi bod yn dylunio ac yn creu tecstilau ar ôl cael eu hysbrydoli gan henebion gwarchodedig yn Sir y Fflint sy’n adlewyrchu treftadaeth Cymru. Dewiswyd safleoedd penodol i ysbrydoli’r gwaith celf gan gynnwys maen hir Penbedw a’r cylch cerrig yn Nannerch; y Gop, sef y bryn uchaf ond un ym Mhrydain a wnaed gan ddyn lle mae ogofâu sy’n cynnwys gweddillion Palaeolithig a chroes garreg Maen Achwyfan yn Chwitffordd sy’n cynnwys dyluniadau Llychlynnaidd. Rhaglen wirfoddoli’r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hyn sefydlodd y rhaglen, a threuliodd pob grwp dridiaun cymryd rhan mewn gweithdai gan gynnwys ymweld â safleoedd, dulliau ffeltio a chreu darnau tecstil gorffenedig. Bu’r ffotograffydd Alan Whitfield yn tynnu lluniau ar y safle ar gyfer yr arddangosfa. Yn ogystal â’r cwrs hwn, bydd cwrs preswyl gyda Helen yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Daniel Owen yr Wyddgrug dros gyfnod o bum diwrnod rhwng 15 a 19 Gorffennaf. Bydd modd i’r cyhoedd ‘alw heibio’ i’r gweithdai rhwng10am a 4pm.a chânt weld arddangosfeydd ffeltio ymarferol, trafodaethau ac arddangosfa ffotograffau. Caiff arddangosfa o’r gwaith gorffenedig ei llwyfannu yn Oriel Melin Celf a chrefft Treffynnon a chaiff ei hagor yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin. Bydd ar agor rhwng 29 Gorffennaf a 3 Awst a bydd i’w gweld am bedwar mis yn llyfrgelloedd Sir y Fflint. Cyngor Celfyddydau Cymru, Adran Dwristiaeth Cyngor Sir y Fflint ac Adran Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint ariannodd y prosiect ar ran Rhaglen Wirfoddoli’r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Beth Ditson, Cydgysylltydd Digwyddiadau Cymunedol yn yr Adran Diwylliant a Digwyddiadau ar 07786 523 601.