Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch

Published: 17/08/2017

Mae myfyrwyr chweched dosbarth yn ysgolion Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth i ddosbarthiadau 2017 dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch. Mae canlyniadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn dangos bod 97.8% o’r rhai sydd wedi sefyll arholiadau CBAC wedi pasio gyda graddau A*-E. Ffigwr Sir y Fflint yn 2016 ar yr un adeg oedd 97.2%. 72.7% yw cyfran y graddau A* i C yn 2017, o gymharu â chyfran o 73% yn derbyn yr un graddau yn 2016. Cafodd 18.2% o ymgeiswyr CBAC yn Sir y Fflint raddau A* neu A, o gymharu â 14.7% yn 2016. Mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr Lefel A Sir y Fflint yn sefyll arholiadau CBAC ac fe fydd canlyniadau gan fyrddau eraill ar gael yn nes ymlaen heddiw. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg: “Ar ôl cael y wybodaeth am y rhai a fu’n sefyll arholiadau Bwrdd Arholi CBAC, maer Cyngor yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr yn wresog am eu gwaith caled au llwyddiant. Wrth i ni ddathlu’r canlyniadau hynny, rydyn ni’n cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth broffesiynol ein hysgolion a’n hathrawon wrth baratoi eu myfyrwyr ar gyfer eu harholiadau a hefyd am y gefnogaeth gan eu rhieni a’u gofalwyr dros y blynyddoedd. Mi ydw i’n benodol falch o’r cynnydd cadarnhaol yn nifer y graddau A* ac A. “Mae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithion galed i ddilyn rhaglenni astudio heriol. Mi ydw i’n falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar y llwybrau maen nhw wediu dewis ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard: “Mae’n braf gweld canlyniadau fel y rhain ac maen nhw’n dod yn sgil gwaith caled a dyfalbarhad myfyrwyr Sir y Fflint wrth astudio. Rydw i’n llongyfarch pob un ohonyn nhw ac yn diolch iw hathrawon, eu rhieni au gofalwyr am eu hanogaeth au cefnogaeth. Mae’r canlyniadau’n newyddion da i bobl ifanc Sir y Fflint ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth wynebu heriau newydd, boed hynny yn y coleg, yn y brifysgol neu ym myd gwaith.” NODYN I OLYGYDDION Ar adeg ei chyhoeddi, mae’r wybodaeth a roddir yn seiliedig ar wybodaeth Bwrdd CBAC yn unig. Rydym yn aros am fanylion gan ysgolion ynglyn â’r darlun cyffredinol unwaith y bydd data byrddau arholi Lloegr (nad yw ar gael yn ganolog i Awdurdodau Lleol Cymru) wedi ei brosesu.