Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyniad llwyddiannus

Published: 23/08/2017

Mae Tîm Safonau Tai a Gorfodaeth Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo mewn erlyniad arall am drosedd dan Ddeddf Tai 2004. Plediodd Filip Barbacaru, Cyfarwyddwr Easy Residence Ltd, yn euog i beidio â bod â thrwydded orfodol ar 22 Awst yn Llys Ynadon Wrecsam. Cafodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o Gyngor Sir y Fflint wybod nad oedd cyflwr 19 Ash Grove, Shotton, yn addas a bod yr eiddon rhy lawn. Cafwyd bod y ty amlfeddiannaeth yn cynnwys tri llawr, gydag atig wedii haddasu, ac roedd 22 o denantiaid yn byw yno. Gan fod yr eiddo dros dri llawr a bod mwy na phump yn byw yno, a oedd yn ffurfio dau deulu neu fwy, roedd angen cael trwydded orfodol ar ei gyfer, fel mae Deddf Tai 2004 yn nodi. Cyflwynwyd trwyddedau gorfodol er mwyn amddiffyn iechyd, diogelwch a lles rhai sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth yn well. Mae trwyddedau’n canolbwyntio ar yr elfennau ffisegol yn ogystal â gallu ac addasrwydd y sawl syn rheoli neun darparur llety amlfeddiannaeth i wneud hynny. Nod trwyddedu gorfodol yw sicrhau bod y tai amlfeddiannaeth hynny syn perir risgiau mwyaf i iechyd a diogelwch yn dod at sylwr awdurdod lleol, syn rhoi rhwymedigaeth mwy uniongyrchol ar landlordiaid i ddarparu safonau derbyniol. Wrth ddedfrydu, dywedodd yr ynadon bod Mr Barbacaru wedi methu ag amddiffyn iechyd a diogelwch y meddianwyr ac na fyddai peidio â chydymffurfio â rhwymedigaethau rheoleiddiol landlordiaid yn cael ei ganiatáu. Gosodwyd dirwy o £8,165 ar Filip Barbacaru, yn cynnwys costau. Dywedodd Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelur Cyhoedd y Cynghorydd Chris Bithell: “Mae Tîm Safonau Tai a Gorfodaeth Sir y Fflint o’r Adran Fusnes a Gwarchod Cymunedau o ddifrif ynglyn â gwella safonau eiddo rhent preifat yn Sir y Fflint ac yn awyddus i weithio gyda landlordiaid ac asiantau sydd ag eiddo rhent yn y sir er mwyn sicrhau bod y safonau gofynnol yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, yn yr achosion hynny lle nad yw pobl yn cydymffurfio, bydd camau priodol yn cael eu cymryd, gan gynnwys camau gorfodi pan fo angen.” Mae angen ir holl eiddo rhent preifat yng Nghymru gael ei gofrestru â Rhentu Doeth Cymru ac mae’n rhaid i unrhyw un sydd ynghlwm â rheoli a gosod eiddo rhent fod â thrwydded. I gael gwybod mwy, cysylltwch â Rhentu Doeth Cymru ar 03000 133344 neu ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru.