Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canlyniadau TGAU 2017

Published: 24/08/2017

Cydnabuwyd gan Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru bod newidiadau o ran cynnwys, strwythur a methodoleg asesu rhai arholiadau TGAU, gan gynnwys Saesneg, Cymraeg a Mathemateg, sy’n cael eu hadrodd am y tro cyntaf eleni, wedi effeithio ar y canlyniadau yn gyffredinol ar draws Gymru yn 2017. Mae’r newidiadau hyn yn ei gwneud hin anodd cymharur canlyniadau eleni â chanlyniadau 2016. Cyfran y graddau A* i C yn 2017 yw 62.8% ar draws Cymru. Yn Sir y Fflint, y gyfradd a lwyddodd i ennill y graddau uwch (A* - C) yw 63.5% o holl arholiadau’r haf, gan gynnwys ceisiadau cynnar ac arholiadau drwy’r Bwrdd Cymreig. Mae cyfran y graddau A* ac A a gyflawnwyd gan fyfyrwyr Sir y Fflint gyda’r Bwrdd Cymreig yn 2017 yn 17%, o’i gymharu â 17.9% ar draws Gymru. Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts: “Ar ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn longyfarch ein disgyblion sydd wedi gweithio’n galed iawn i gyflawnir canlyniadau hyn er gwaethaf y newidiadau i’r arholiadau. Hoffwn hefyd ddiolch i’r rhieni a’r gofalwyr sydd wedi cefnogi ac annog eu plant ar aelodau staff sydd wedi gweithion galed iawn i gefnogi eu disgyblion. Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i symud ymlaen i gyrsiau addysg ôl-16 neu ddod o hyd i waith addas. Beth bynnag yw’r camau nesaf ar eu cyfer, dymunwn bob llwyddiant iddynt.” Ychwanegodd Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid: “Mae’r Cyngor yn falch iawn o allu llongyfarch ei fyfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr o fewn Sir y Fflint ar y canlyniadau TGAU a gyflawnwyd eleni ac mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weld ei bobl ifanc yn symud ymlaen i gam nesaf eu taith ddysgu, boed hynny’n golygu addysg bellach, prentisiaethau neu’r byd gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn o newid i strwythur y cwricwlwm ac arholiadau yng Nghymru, mae swyddogion addysg y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion Gogledd Cymru, GwE, er mwyn gwella ansawdd addysg ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint a sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu potensial.” DIWEDD