Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn Croesawu Taith Baton Gemaur Gymanwlad

Published: 30/08/2017

Bydd Baton Gemaur Gymanwlad, sy’n cynnwys neges i’r athletwyr gan y Frenhines, yn ymweld â Sir y Fflint fel rhan o’r daith i Gemau’r Arfordir Aur yn Queensland, Awstralia. Yn ystod y daith 388 diwrnod bydd y baton yn cael ei gludo gan redwyr amrywiol ac yn ymweld â phob cornel o’r Gymanwlad cyn cyrraedd y Gold Coast City yn barod ar gyfer y seremoni agoriadol ar 4 Ebrill 2018. Fel rhan o’r daith bydd y Baton yn treulio pedwar diwrnod yng Nghymru, gan deithio o Abertawe ar 5 Medi a chyrraedd Theatr Clwyd yr Wyddgrug ar 7 Medi. Mae cludwyr lleol y baton yn cynnwys Jade Jones, pencampwraig Taekwondo Gemau Olympaidd 2012 a 2016; Beverley Jones, y paralympwraig; Caroline Harvey a Daniel Font, sêr badminton Gemau’r Gymanwlad; ac Elena Morgan, sy’n rhan o dîm nofio Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: Mae croesawu’r Baton i Sir y Fflint yn gyfle gwych i ni hyrwyddo ein cyfleusterau chwaraeon ar cyfleoedd a ddarperir ynddynt i drigolion o bob oed a gallu. “Mae gan Sir y Fflint enw da am feithrin athletwyr talentog sy’n ysbrydoli eraill iw canlyn. “Rydym ni’n falch iawn o gefnogi neges y Baton a dymuno pob hwyl i bawb sy’n cystadlu yng ngemau 2018.” Bydd y dathliadau yn dechrau am 3pm ar y cae wrth ymyl y theatr a bydd y tîm datblygu chwaraeon wrth law i helpu pobl gymryd rhan a rhoi cynnig ar amrywiaeth o gampau. Meddai’r Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Mae gan Gymru gysylltiadau cryf â Thaith Baton y Frenhines. Cychwynnodd taith gyntaf erioed y Baton yng Nghaerdydd cyn Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yn 1958 a bu ir rhedwr a’r seren rygbi o fri Ken Jones gychwyn y daith. “Mae’n anrhydedd ac yn bleser gennyf fod Sir y Fflint yn cadw at y traddodiad hwn ac wedi ei dewis i gloi trydydd diwrnod y daith yng Nghymru. Hoffaf wahodd pawb i alw heibio i Theatr Clwyd ac ymuno â’r dathliadau, gan groesawu’r Baton i’n sir.” Bydd y Baton yn cyrraedd am 5.30 a bydd gorymdaith arbennig, wedi ei chydlynu gan New Dance (sefydliad datblygu dawns lleol) ac yn cynnwys disgyblion o ddeg o ysgolion cynradd Sir y Fflint, yn tywys y rhedwyr at flaen y theatr. Bydd y Baton wedyn yn cael ei gludo i mewn i’r adeilad ac ar lwyfan Theatr Anthony Hopkins. Gall unrhyw un sy’n dymuno cael tynnu ei lun gyda’r Baton fynd ar lwyfan Theatr Anthony Hopkins rhwng 6.15 a 7pm. Bydd y ffordd o flaen y theatr ar gau ar gyfer y dathliadau o 3pm, ond bydd y maes parcio aml lawr ar agor i’r cyhoedd. Gallwch ddilyn taith y Baton yn www.gc2018.com/qbr.