Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Drysau Agored - tu ôl ir llenni yn yr Hen Reithordy a llwybr Pentref Penarlâg

Published: 30/08/2017

Dydd Sadwrn 23 Medi 2017, 10am - 4pm Ddydd Sadwrn 23 Medi 2017, bydd Archifdy Sir y Fflint, sydd wedi’i leoli yn yr Hen Reithordy, Penarlâg, yn cymryd rhan yn y digwyddiad ‘Drysau Agored’, sef digwyddiad Cymru gyfan sy’n cael ei drefnu gan Cadw. Mae Drysau Agored yn cynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd archwilio trysorau cudd diwylliant a hanes Cymru. Adeilad or 18G ywr Hen Reithordy syn sefyll o fewn ei diroedd ei hun ac a oedd am ganrifoedd yn gartref i Reithoriaid Penarlâg. Ers 60 mlynedd bellach mae’r Rheithordy wedi bod yn gartref i Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint lle diogelir treftadaeth archifol unigrywr Sir gan sicrhau ei fod ar gael ir cyhoedd. Bydd y digwyddiad Drysau Agored yn cynnwys arddangosfa o adeiladau hanesyddol Penarlâg (gan gynnwys yr Hen Reithordy) ddoe a heddiw. Bydd teithiau y tu ôl ir llenni o amgylch yr Hen Reithordy i weld yr ystafelloedd diogel ble cedwir archifau hanesyddol y Sir a bydd cyfle hefyd i weld rhai o’r eitemau hynaf a phrinnaf yn ein casgliadau. Gallwch fynd i weld y stiwdio gadwraeth i weld sut y caiff archifau gwerthfawr a bregus eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yna hefyd daith gerdded ddiddorol o amgylch Penarlâg heibio adeiladau hanesyddol y pentref o dan arweiniad aelod gwybodus o staff. Dewch draw i Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint i weld pa ffeithiau anhygoel y gallwch chi eu darganfod am eich teulu, eich cartref neu eich ardal leol! Taith o amgylch y pentref - 11.00am - rhaid archebu lle Y tu ôl ir llenni a theithiau cadwraeth - 10.30am, 11.30am ac 12.30pm – rhaid archebu lle Rhif ffôn ar gyfer trefnu lle: 01244 532364, e-bost: archives@flintshire.gov.uk Cyfeiriad – Yr Hen Reithordy, Rectory Lane, Penarlâg, Sir y Fflint, CH5 3NR