Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn Anrhydeddu Diwrnod y Llynges Fasnachol

Published: 05/09/2017

Cododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch ddydd Sul, 3 Medi, i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol. Mae’r Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i forwyr y maer DU yn dibynnu arnynt. Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr sydd wedi gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd. Rydym hefyd yn dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol presennol sy’n gyfrifol am 95% o fewnforion y DU, gan gynnwys llawer o’r bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan fwyaf o’r tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a’r nwyddau rydym yn eu cymryd yn ganiataol. Dywedodd y Cynghorydd Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o sefyll gydag awdurdodau lleol eraill i gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol. Rydym yn codir Lluman Coch bob blwyddyn fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr heddiw a morwyr y gorffennol. Mae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel ynys ac mae hi’n dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau. Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac rydym yn cydnabod ei bod yr un mor bwysig cydnabod gwasanaeth y Llynges Fasnachol in gwlad. Maer holl gynghorau lleol syn cymryd rhan wediu hychwanegu i “Restr Anrhydedd” Diwrnod y Llynges Fasnachol ar https://www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-day/.