Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad Swyddogol Sir y Fflint yn Cysylltu

Published: 08/07/2014

Bydd canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn cael ei hagor yn swyddogol yng Nghei Connah am 11.30am ddydd Llun 14 Gorffennaf gan y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint. I ddilyn y seremoni ffurfiol gydag arweinwyr cymunedol lleol cynhelir prynhawn agored o weithgareddau i’r cyhoedd o 1.30pm tan 7pm. Yn ystod y prynhawn agored bydd cyfle i blant dan 5 oed fwynhau Amser Rhigwm, tra bo’r plant hyn yn cael siawns i roi cynnig ar raffl am ddim os ydynt yn galw i mewn a chofrestru ar gyfer Her Ddarllen genedlaethol yr Haf. Mae’r Arddangosfa Dreftadaeth yn awyddus i gael atgofion lleol ac anogir unigolion a grwpiau cymunedol i alw i mewn gyda’i hen ffotograffau, dogfennau a phethau cofiadwy lle gallant eu sganio er mwyn eu harddangos yn y dyfodol. Tra maent yno gall ymwelwyr gael profiad ymarferol yn yr amgueddfa wrth ymdrin â rhai o’r pethau sy’n cael eu harddangos yn yr Arddangosfa Dreftadaeth. Bydd yr Undeb Credyd wrth law i sôn am fenthyciadau fforddiadwy a chynilion, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn selio’ch olion bysedd mewn cylchoedd allweddi a bydd staff Amgueddfa Dyffryn Maes Glas yn eich helpu i wneud bathodynnau am ddim. Yn ogystal â’r gweithgareddau arbennig a gynigir yn y prynhawn gall ymwelwyr ddefnyddio’r cyfleusterau arferol a ddarperir yn y ganolfan megis talu biliau’r cyngor, holi am wasanaethau’r cyngor, ymaelodi â’r llyfrgell, defnyddio’r cyfrifiaduron am ddim a manteisio ar Wi-Fi am ddim. Mae’r ganolfan newydd ar Wepre Drive ac mae’n darparu mynediad lleol at Wasanaethau’r Cyngor, Llyfrgell a Chanolfan Ddysgu Cei Connah a’r Arddangosfa Dreftadaeth newydd. Yn ogystal â’r Llyfrgell a’r Ganolfan Ddysgu bydd ymgynghorwyr hyfforddedig wrth law i helpu cwsmeriaid i gael gwybodaeth a gwasanaethau allweddol y Cyngor Sir megis Tai, Gwasanaethau Stryd, Budd-daliadau a chyngor am les, Bathodynnau Glas, Tocynnau Teithio Rhatach a’r Dreth Gyngor. Bydd y ganolfan hefyd yn galluogi asiantaethau partner i gynnal cymorthfeydd cymunedol. Am fwy o wybodaeth am Sir y Fflint yn Cysylltu neu am amseroedd y gweithgareddau penodol yn y prynhawn, edrychwch ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk/yncysylltu neu e-bostiwch customerservices@flintshire.gov.uk neu libraries@flintshire.gov.uk Nodyn i Olygyddion Fe’ch gwahoddir i anfon ffotograffydd a gohebydd i’r agoriad swyddogol yng Nghanolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, Wepre Drive, Cei Connah am 11.30am ddydd Llun 14 Gorffennaf.