Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn Prysur Agosáu

Published: 07/09/2017

Bydd lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy #DdyrfywyMawr17 eleni yn digwydd ym Mharc Gwepra, Cei Connah, ddydd Gwener 15 Medi am 9:30am. Noddir y lansiad eleni gan McDonald’s, ac mae’r digwyddiad glanhau blynyddol hwn, sy’n cael ei gynnal dros sawl diwrnod, yn cael ei gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint yn ogystal â staff o gynghorau cyfagos gan gynnwys, Gorllewin Caer a Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd Amwythig a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae McDonalds wedi bod yn rhan o Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy ers blynyddoedd bellach ac eleni fe fydd dros 14 o bobl o’r saith bwyty gwahanol sydd dan reolaeth Stewart Williams yn Sir y Fflint a Wrecsam, allan unwaith eto ar 20 Medi yn casglu sbwriel ar draeth Talacre. Maent hefyd wedi cynorthwyo Ceidwaid Sir y Fflint â phlannu bylbiau, glanhau nentydd, plannu coed a thasgau eraill dros y blynyddoedd diwethaf ar adegau gwahanol or flwyddyn. Dyma’r drydedd flwyddyn i Tesco gymryd rhan a bydd oddeutu 150 aelod o staff yn ein cynorthwyo yn y chwe sir. Bydd y gwirfoddolwyr yn ymgymryd â thasgau amrywiol, gan gynnwys plannu eithin, casglu sbwriel a thorri prysg yn Greenfield. Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn casglu sbwriel ar Yr Wyddfa ac yn torri coed ar Moel Famau. Ers y cynhaliwyd y digwyddiad am y tro cyntaf 11 mlynedd yn ôl mae wedi tyfu o nerth i nerth ac fe fydd oddeutu 40 sefydliad yn cymryd rhan yn y digwyddiad eleni. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys McDonald’s, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Coleg Llyfasi, Ysgol Gwynedd, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Friends of Bagillt Foreshore, Sustrans, Kingspan, Grwp Sgowtiaid Treffynnon, Cyfeillion Parc Gwepra, Tesco, Toyota ac Airbus. Mae pawb syn cymryd rhan yn gweithion galed i glirio sbwriel yr afon a sbwriel morol syn cael ei olchi i fyny ar hyd yr Afon Dyfrdwy, ac yn paentio a thaclusor lleoedd arbennig ar hyd ei glannau ar arfordir, o fynyddoedd Cymru i gynefin arfordirol aber afon Dyfrdwy. Dywedodd yr Aelod Cabinet Cefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n parhau i gefnogir digwyddiad llwyddiannus hwn ac fe hoffwn ddiolch i McDonald’s yn benodol am noddi ein digwyddiad lansio eleni. Rydym yn llwyddo i gyflawni ei nod o lanhau ein harfordir ar gyfer ymwelwyr a bywyd gwyllt. Mae hyn, ynghyd â gwaith Llwybr Arfordir Cymru, yn gwneud ein harfordir ni yn le delfrydol i ymweld ag ef. Fel digwyddiad trawsffiniol, rydym yn mynd i’r afael â phroblem cenedlaethol a byd eang gyda phobl, busnesau a chymunedau yn Sir y Fflint.” Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Tim Johnson: “Mae’r digwyddiad hwn yn llwyddo i ddod â llawer o grwpiau a sefydliadau ynghyd a phob un ohonynt â nod cyffredin, mae’n wych. Mae Tesco unwaith eto wedi mynychu’r holl gyfarfodydd drwy gydol y flwyddyn i baratoi ar gyfer y digwyddiad, yn sicr dylid cydnabod cefnogaeth o’r fath.”