Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lwfansau Aelodau 2016/17

Published: 13/09/2017

Mae gofyn i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud trefniadau i gyhoeddi faint o bob categori o lwfans a dalwyd i bob aelod etholedig ac aelod cyfetholedig yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae’r trefniadau yn Sir y Fflint yn cynnwys: 1. Cyhoeddi’r wybodaeth ar wefan y Cyngor; 2. Gwneud yn siwr bod y wybodaeth ar gael yn llyfrgelloedd y Sir; 3. Gwneud yn siwr bod y wybodaeth ar gael i’w harchwilio yn y brif dderbynfa yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Yn ogystal â hyn, mae copi o Restr Cydnabyddiaeth Aelodau ar gyfer 2016/17 hefyd ar gael ar wefan y Cyngor ac ar gael iw harchwilio yn y brif dderbynfa.