Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn derbyn y nifer fwyaf o brentisiaid

Published: 15/09/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu 35 o brentisiaid newydd. Bu’r recriwtiaid newydd yn cwrdd â’r Prif Weithredwr, Colin Everett, yn ystod diwrnod cynefino yn Academi Dysgu a Datblygur Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain. Caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob blwyddyn i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd mewn meysydd sy’n cynnwys busnes, cyfrifyddiaeth, TGCh, cefn gwlad, datblygu chwaraeon a llyfrgelloedd. Mae carfan eleni yn cynnwys prentis a fydd wedi’i leoli yn Theatr Clwyd, gan adeiladu setiau wrth ddysgu crefftau megis gwaith coed a phlymio. Fel rheol, mae’r prentisiaid yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant, tra’u bod yn cael profiad gwerthfawr yn gweithio i’r cyngor ac yn ennill cyflog. Mae’r adran Dysgu a Datblygu wedi cyflogi graddedig ym maes Rheoli, Diogelu a Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn gallu parhau â’i chymhwyster Meistr tra’n gweithio mewn proffesiwn. Mae prentisiaid hefyd yn gwirfoddoli i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, ac eleni byddant yn cymryd rhan mewn menter llythrennedd digidol newydd, gan ymweld â sefydliadau yn Sir y Fflint megis cartrefi preswyl i helpu preswylwyr i ddod yn fwy cyfarwydd â chyfrifiaduron, gliniaduron a ffonau symudol. Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Mae hi bob amser yn bleser croesawu ein prentisiaid ac rwy’n dymuno’r gorau i bob un ohonynt wrth iddynt ddechrau ar eu siwrnai ym myd gwaith. Mae nifer o’n prentisiaid blaenorol wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn yn eu crefftau a’u proffesiynau dewisol. Mae’r ffaith bod 96% o’r unigolion ar ein cynllun yn cael gwaith neu lefydd ar gyrsiau addysg uwch ar ddiwedd eu prentisiaeth yn glod i’r rhaglen a’n partneriaeth gyda Choleg Cambria.