Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyniad Sbwriel
Published: 08/07/2014
Mae cynllun Cyngor Sir y Fflint i lanhau’r amgylchedd yn parhau i erlyn pobl am
droseddau yn ymwneud â sbwriel.
Llwyddodd y cynllun i erlyn Miss Claire Forrester o Sealand Avenue, Garden City
ddydd Iau 26 Mehefin 2014.
Cafodd Miss Forrester ei herlyn am drosedd sbwriel ar ôl gollwng stwmp sigarét
ar y llawr y tu allan i Iceland ar Victoria Road, Shotton ar 20 Mawrth 2014 a
chafodd orchymyn i dalu cyfanswm o £470 gan gynnwys dirwy a chostau.
Os derbyniwch Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) am faw cwn, sbwriel neu graffiti,
gallwch ostwng cyfanswm y ddirwy drwy ei thalu cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae
dirwy o £75 ynghlwm wrth HCB ond mae’r swm yn gostwng i £50 os caiff ei dalu
cyn pen saith diwrnod. Mae problemau’n codi pan na fydd y ddirwy’n cael ei
thalu. Mae Cyngor Sir y Fflint yn trosglwyddo’r achos i’r llys ac ar ôl hynny
ni all y Cyngor reoli lefel y ddirwy os yw’r erlyniad yn llwyddiannus.
Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros Strategaeth Wastraff,
Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Bwriad y cynllun glanhau yw cyfleu neges gadarn
i’r lleiafrif o bobl sy’n parhau i daflu sbwriel ar strydoedd Sir y Fflint”.
“Diben y cynllun yw galluogi preswylwyr i fwynhau ffyrdd a mannau cyhoeddus
glân. Nid yw’r Cyngor yn barod i oddef sbwriel, baw cwn, tipio anghyfreithlon
na graffiti. Os nad yw pobl yn talu’r ddirwy ddechreuol bydd y Cyngor yn eu
herlyn.”
Gall preswylwyr roi gwybod am achosion o faw cwn, taflu sbwriel, tipio
anghyfreithlon a graffiti drwy ffonio 01352 701234. Dylech nodi amseroedd,
lleoedd ac enwau os yw hynny’n bosibl.