Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter Sir y Fflint yn cymysgu ar gyfer busnes

Published: 20/09/2017

Gyda chefnogaeth Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, gwnaeth chwe aelod o Glwb Menter Sir y Fflint fynychu Cynhadledd ac Arddangosfa Mingle for Business eleni a gynhaliwyd yn Ystafell Gynadledda gwesty Springfield yn ddiweddar. Y thema ar gyfer y diwrnod oedd “Simply the Best” ac roedd yn cynnwys arddangosfa ryngweithiol o drawstoriad eang o ddiwydiannau o wasanaethau busnes, cynnyrch ac adnoddau datblygiad personol, a phob un yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol. Roedd Barry Evans, sylfaenydd Evolift Safety Products, Caroline Lamont o Tips on Nails, Carol Britnell sy’n cynnig cynnyrch sy’n deillio o wenyn gan gynnwys mêl, cadachau gwêr a chwyr, Joanne Powell, sydd â busnes creu gwisgoedd a dodrefn golygfaol o’r enw “Costumes for Children”, Bethan Williams o Amser Babi Cymraeg, ac Angela Atherton o Autism Support, i gyd yn bresennol yn y digwyddiad. Sefydlwyd Mingle for Business gan Sandra Donaghue, sy’n egluro: “Mae Mingle for Business yn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid sy’n darparu cymorth busnes effeithiol a rhwydweithio i weithwyr busnes proffesiynol ar bob lefel. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd ar draws Gogledd Cymru a Chaer. Roeddwn wrth fy modd o weld cymaint o aelodau Clwb Menter Sir y Fflint yn y digwyddiad oherwydd rwyf wedi bod yn eu cefnogi dros y misoedd diwethaf drwy ddarparu gweithdai Pathway 2 Business ac maen nhw’n grwp o bobl fusnes brwdfrydig iawn ac ymroddedig, a phob un yn angerddol am eu sgiliau penodol. “Roedd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau cefnogol wedi’u cynllunio i ysbrydoli, i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar fusnesau, i rannu awgrymiadau, cynnig cyngor a rhannu profiadau personol. Y nodau oedd cefnogi busnesau bach i ddatblygu rhwydwaith cefnogaeth, codi proffiliau a gosod hunangred mewn amgylchedd sy’n ysbrydoli.”