Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu’r Rhaglen Adferiad a Lles

Published: 21/09/2017

Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad ar 12 Hydref i ddathlu pum mlynedd o’r Rhaglen Adferiad a Lles. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3pm yn Neuadd Ddinesig Cei Connah ac mae croeso i bawb ddod draw i gael gwybod mwy. Dechreuodd Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sir y Fflint ariannu’r rhaglen hon yn 2012 er mwyn cynnig cyfleoedd hyfforddi a dysgu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau au gofalwyr er mwyn eu helpu i wella a dod dros eu hanawsterau. Darperir yr hyfforddiant gan nifer o sefydliadau partner, yn cynnwys MIND, Unllais, ASNEW a KIM. Mae’r rhaglen wedi bod yn hynod o lwyddiannus a bu modd ariannu gweithiwr cefnogi Adferiad a Lles ers 2013. Bydd y dathliad yn olrhain llwyddiant y rhaglen rhwng 2012 a heddiw, gyda 6 o unigolion wedi cael cymorth yn 2012 a 486 hyd yma eleni - llwyddiant aruthrol o fewn cyfnod cymharol fyr. Dros y 5 mlynedd diwethaf hysbysebwyd dros 280 o gyrsiau gyda 1500 o lefydd wedi’u cymryd. Mae gan y gweithiwr cefnogi Adferiad a Lles ar hyn o bryd gronfa ddata o dros 540 o bob sydd wedi mynychu un neu fwy or cyrsiau ar ryw adeg. Mae’r amrywiaeth eang o gyrsiau wedi cynnwys; y rhaglen SAFE, amrywiol gyrsiau celf a chrefft, ymwybyddiaeth ofalgar, gweithdai gwella a chadwn iach, ysgrifennu CV, cwrs gwirfoddoli Camu i Fyny Camu Allan, addurno cacennau a chreu basgedi blodau crog. Felly dewch draw i ddysgu rhagor – bydd croeso mawr i chi a bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn sesiynau blasu celf a chrefft, cerddoriaeth, tai chi, coginio a sgiliau coetir am ddim. Bydd cyfle hefyd i chi roi adborth yn ystod y dydd er mwyn i ni allu gwella a datblygu’r rhaglen ymhellach, ar yr un pryd a mwynhau’r lluniaeth fydd ar gael. Am ragor o fanylion, 01244 831056 or 07776 452471 or email karen.griffith@flintshire.gov.uk.