Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun y Cyngor

Published: 21/09/2017

Yn ei gyfarfod ar 26 Medi, gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi Cynllun y Cyngor 2017-18 cyn iddo gael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir ar gyfer ei gyhoeddin derfynol. Mae’r cynllun ar gyfer 2017-23 wedi ei adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethaur Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd. Mae uwch-strwythur y cynllun yn parhau yr un fath â chynlluniau blaenorol ac yn cynnwys chwe blaenoriaeth yn canolbwyntio ar effaith ac is flaenoriaethau perthnasol, yn hytrach nac wyth. Mae’r chwe blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar brosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf. Y rhain yw: · Cyngor Cefnogol · Cyngor Uchelgeisiol · Cyngor sy’n Dysgu · Cyngor Gwyrdd · Cyngor sy’n Cysylltu · Cyngor syn Gwasanaethu Caiff Cynllun y Cyngor ei gyhoeddi mewn fformat tebyg i’r blynyddoedd blaenorol: gan bwysleisio amcanion a chamau gweithredu a chyfeirio at faterion cenedlaethol a allai effeithio ar gyflawni’r blaenoriaethau. Mae’r Cynllun yn gorwedd ochr yn ochr âr Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2017-2020 ac mae mewn dwy ran. Mae Rhan 1 yn ddatganiad o’n hamcanion a’n bwriadau. Mae Rhan 2 yn disgrifio’r targedau a’r cerrig milltir a ddefnyddir i fesur y llwyddiannau. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cynllun hwn yn nodi ein prif flaenoriaethau i gefnogi a hybu bywydau’r preswylwyr. Mae’n galonogol i fod yn adolygu’r Cynllun hwn yn dilyn yr adroddiad diweddar gan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol syn nodi fod Sir y Fflint yn un or cynghorau sydd wedi gwella fwyaf dros y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn gamp sylweddol, o ystyried y pwysau ariannol yr ydym yn eu hwynebu a fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib heb weithlu ymroddedig. “Er gwaethaf y caledi ariannol parhaus, rydym yn parhau yn ymroddedig ac uchelgeisiol fel Cyngor i barhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: Mae’r cynllun wedi cael ei adnewyddu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Maer Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a amlygwyd fel blaenoriaethau. Maer Cynllun hefyd yn cynnwys materion cenedlaethol a lleol a allai effeithio ar ein blaenoriaethau a pham. Yr hyn sy’n bwysig yw bod Sir y Fflint yn parhau i gyrraedd a rhagori ar ei dargedau ac yn gosod blaenoriaethau newydd i ddatblygu’r perfformiad er mwyn cynnal perfformiad cadarn y Cyngor bob blwyddyn.”