Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint

Published: 22/09/2017

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint wedi cyrraedd carreg filltir yn ei ddatblygiad yn dilyn canolbwyntio ar y camau ymgysylltu cychwynnol a chyfranogi o baratoi ar gyfer y cynllun fel a nodwyd gan Reoliadau CDLl Llywodraeth Cymru. Daethpwyd â’r gwaith at ei gilydd i ffurfio’r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl. Cyn hyn, mae’r Cyngor wedi cynnal nifer o ymgynghoriadau a phrosesau ymgysylltu sy’n ymwneud â Negeseuon Allweddol y Cynllun a’r Opsiynau Strategol sy’n cael eu hategu gan ymgysylltu sylweddol âr gymuned. Mae’r CDLl yn darparu fframwaith Sir y Fflint ar gyfer cynllunio defnydd tir yn y sir hyd at y flwyddyn 2030. Bydd yn siapio dyfodol ffisegol ac amgylcheddol Sir y Fflint, ac yn dylanwadu arno’n economaidd ac yn gymdeithasol drwy ymateb i anghenion poblogaeth sy’n tyfu ac economi bwysig yn rhanbarthol, ond mae’n rhaid iddo wneud hyn mewn ffordd sy’n sicrhau bod lles ei gymunedau yn cael ei gynnal a bod effaith datblygu a defnydd tir yn cael eu rheoli’n gynaliadwy. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio: “Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn cynrychiolir trawsnewid rhwng y camau ymgysylltu ac ymgynghori anffurfiol blaenorol a’r camau ymgynghori mwy ffurfiol wrth symud ymlaen tuag at fabwysiadu’r Cynllun. “Mae’r Cyngor wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau wrth ymgysylltu ag amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid wrth i’r CDLl ddatblygu i ddarparu fframwaith ar gyfer cynllunio defnydd tir Sir y Fflint gan y bydd y broses o gael consensws yn ein galluogi i gyflwyno’r Strategaeth a Ffefrir yn hyderus ar gyfer ymgynghori arni. “Pan fydd wedi gorffen, bydd yn darparu canllaw cynhwysfawr o gyfleoedd cynllunio yn y sir a bydd yn ceisio sicrhau datblygu cynaliadwy.” Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo drafft terfynol y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 26 Medi gyda’r bwriad o’i chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus swyddogol. Mae rhagor o wybodaeth am CDLl Sir y Fflint ar gael ar wefan y Cyngor: www.flintshire.gov.uk/ldp.