Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Am lanast rydych wedi’i dacluso!

Published: 25/09/2017

Mae newyddion cynnar wedi ein cyrraedd sy’n dangos bod digwyddiad tacluso Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Casglodd 250 o wirfoddolwyr tua 200 sach o sbwriel yn Sir y Fflint yn unig, a hefyd dwy dunelli o ddeunydd a gafodd ei dipio yn anghyfreithlon, yn ogystal â thorrir prysgwydd, cribor ddôl a symud logiau. Casglwyd cannoedd o fagiau o sbwriel gan wirfoddolwyr o ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau, a oedd hefyd wedi plannu 412 o blanhigion eithin, tair coeden ywen, clirio prysgwydd ac ail-wynebu llwybrau yn ystod digwyddiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni. Roedd y digwyddiad yn cael ei gydlynu gan Gyngor Sir Y Fflint gyda staff o gynghorau cyfagos Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd Amwythig, a Chyfoeth Naturiol Cymru. Dyma rai enghreifftiau or gwaith gwych a wnaed yn ystod y diwrnodau diwethaf: · Ger y Fflint - 19 o wirfoddolwyr Toyota wedi casglu 35 bag o sbwriel a deunydd wedii dipion anghyfreithlon; roedd gan Cadw Cymru’n Daclus wyth o bobl allan yn casglu deg bag o sbwriel; fe gasglodd wyth o bobl eraill o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub wyth bag hefyd. · Casglodd saith myfyriwr a’u harweinydd o Goleg Llysfasi, chwe bag sbwriel o lan Afon Gwepre. · Bu pedwar o wirfoddolwyr o Sustrans yn brysur iawn wrth gasglu 28 bag yn ogystal ag eitemau mwy o Bont Penarlâg i Bont Saltney Ferry. · Cafodd 12 o bobl o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas 30 bag yn ogystal ag eitemau mwy o gwmpas y “llong hwyl”. · Bu Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas hefyd yn llwyddiannus yn gwaredu tunnell o ddeunydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon o’r dyffryn. · Casglwyd pum bag o sbwriel yn Bettisfield gan wyth o bobl o Gyfeillion Blaendraeth Bagillt. · Bu pymtheg Sgowt o Dreffynnon ynghyd â gwirfoddolwyr eraill yn llwyddiannus wrth gasglu 16 bag o sbwriel ac ychydig o eitemau mwy o Ddyffryn Maes Glas a’r Doc. · Llenwodd unarddeg gwirfoddolwr o Kingspan dryc llawr gwastad a chwe bag sbwriel, roeddent hefyd wedi torri llawer o brysgwydd. · Yn Presthaven, casglodd 25 person 12 bag o sbwriel. · Daeth deg ar hugain o ddisgyblion Ysgol Gwynedd ynghyd â phobl o Gefn Gwlad Sir y Fflint a ENI i gasglu tri bag o Dalacre; llenwodd chwe gwirfoddolwr arall o McDonalds dri bag arall or un traeth a chasglodd gwirfoddolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru 7 bag llawn sbwriel. · Casglodd pump o wirfoddolwyr Quay Watermen 30 bag o sbwriel. · Gweithiodd ugain o wirfoddolwyr Tesco a staff o Wasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint ar gasglu wyth bag o sbwriel, plannu 412 o blanhigion eithin a gwaredu ar bum trelar llawn prysgwydd wedii dorri yn Nociau Maes Glas. · Cliriodd 70 myfyriwr a’u harweinwyr o Goleg Cambria, ynghyd â staff Cefn Gwlad Sir y Fflint ardal fawr o logiau a changhennau o Ffrwd Gwepra i helpur llif, a buont yn cribo ardal fawr o’r ddôl a chlirio ardaloedd o brysgwydd. · Gweithiodd 25 gwirfoddolwr o Gyfoeth Naturiol Cymru ar yr ardaloedd hyn hefyd yn ogystal â Thraeth Talacre. · Buont yn clirio pum erw o goed helyg a bedw oedd yn ennill tir ar gynefin yr arfordir, gan wella’r cynefin i fywyd gwyllt ar safle SODDGA/ ACA/ Ramsar y Parlwr Du. · Cafodd 20 o gynefinoedd coed wedi marw eu creu , a bydd yr ardaloedd hyn yn cynnig cynefinoedd pwysig i infertebratau bach ac adar sy’n nythu. · Cwblhawyd arolwg safle 48 erw, a oedd yn adnabod 18 crafiad posib o lyffantod y twyni. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Cefn Gwlad: “Mae wir yn anhygoel faint o sbwriel sydd wedi ei gasglu hyd yn hyn – heb sôn am y ffigyrau terfynol! Mae hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled i sicrhau bod hyn yn mynd yn ei flaen. Maen enghraifft go iawn o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ac rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o hyn. Roedd yn ymdrech wych gan bawb a gymerodd ran. Roedd hi’n stori debyg ar draws gweddill y rhanbarth: · Wrecsam - Gosododd wyth o staff Tesco 20 metr o lwybr troed yn Nyfroedd Alun a chreodd ddeg o’u staff lwybr bord 6 metr a chlirio adran o’r pwll dwr yn Nhy Mawr. · Sir Ddinbych - Tynnodd 20 o wirfoddolwyr o Tesco gannoedd o goed o ardal Moel Famau o’r enw “Ty i’r Rugiar Ddu” - er mwyn helpu gyda chynnal a chadw’r cynefin ar gyfer y rugiar ddu. · aSwydd Gaer – Casglodd 27 o staff Tesco bum bag o sbwriel a pheintio meinciau a ffensys, a bu 12 person o Quest yn torri coed a phrysgwydd yn Nyffryn Caldy; casglodd 17 aelod o Grwp Ysbryd Cymunedol Parkgate 2 fag. · Swydd Amwythig – Roedd Tesco’n gallu anfon 23 aelod o staff, ac ymunodd 4 aelod o Bwyllgor Rheoli Ifton Meadows ac aelodau o staff o Gyngor Swydd Amwythig. Y dasg ar gyfer Diwrnod Mawr Y Ddyfrdwy yn Swydd Amwythig oedd clirio prysgwydd oedd yn ennill tir ar laswelltir pwysig ar gyfer ehedyddion sy’n bridio. Cliriwyd ardal enfawr o laswelltir gan y gwirfoddolwyr a chofnodwyd 112 awr o wirfoddoli. Dechreuodd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy gyda digwyddiad lansio dros frecwast ym Mharc Gwepra a chyflwynwyd gwobrau i nifer o sefydliadau am eu gwaith ymroddedig i warchod yr amgylchedd yn ystod y 12 mis diwethaf.