Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Gwobrau Dementia y Fflint

Published: 26/09/2017

Cynhaliodd Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia y Fflint, ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, eu Gwobrau Busnes a Dathliad Cacennau Bach yn ddiweddar yn Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant. Wedi’i noddi gan Wates Living Space, roedd y digwyddiad yn ddathliad ar gyfer busnesau a sefydliadau yn y Fflint sydd wedi llwyddo i ennill statws Gweithio tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia, un ai am y flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn yn olynol. Maer busnesau hyn wedi addo cyflawni isafswm o dri cham gweithredu o unrhyw un or ymrwymiadau a restrir isod: Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau gweithredu yn cynnwys: penodi hyrwyddwr dementia ar gyfer y sefydliad, gan roi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i staff). Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd ffisegol y siop / adeilad (camau gweithredu yn cynnwys: arwyddion clir yn y siop, mynedfeydd wediu goleuon dda). Ymrwymiad 3: Cefnogi staff syn datblygu dementia neu’n gofalu am rywun â dementia (mae camau gweithredu yn cynnwys: newid rôl y person, gan ddarparu cwnsela yn fewnol). Ymrwymiad 4: Cefnogir gymuned leol (camau gweithredu yn cynnwys: codi arian, gwirfoddoli, partneriaethau elusennol). Enillwyr y Gwobrau oedd: Achrediad am yr ail flwyddyn: · Llyfrgell y Fflint · Banc Barclays · Fferyllfa Boots · Cartref Gofal Bryn Edwin · Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant · Ysgol Uwchradd y Fflint · Wates Living Space · Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint · Adnoddau Dynol Cyngor Sir y Fflint · Adran Datblygu Gweithlu Cyngor Sir y Fflint Achrediad y flwyddyn gyntaf: · Banc Cymunedol Nat West · Cresta · Sandwiched · Cartref Gofal Rhiwlas · Côr Merched y Fflint · Sinema’r Fflint Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Gwobrau hyn yn helpu i godi proffil dementia a dangos yr hyn y gall sefydliadau ei wneud i wneud bywyd yn haws i bobl sydd â dementia au teuluoedd. Mae grwp Cyfeillgar i Ddementia y Fflint yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o ddementia ac mae’n ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol yn y dref. Maer grwp yn dal i dderbyn cefnogaeth dda gan y Tîm Cynllunio a Datblygu o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.” Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.