Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion iau Sir y Fflint yn cael budd o gynllun peilot

Published: 27/09/2017

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi cynnal cynllun peilot gyda’r prosiect Meee i helpu a chefnogi plant lleol. Mae’r prosiect Meee (My Education, Employment and Enterprise) yn cynnig gweithdai arbennig sy’n addysgu technegau ar gyfer ymdopi gyda straen a gorbryder pan fo rhywun yn cael trafferth ffitio i mewn – yn yr ysgol, yn y gwaith neu’r gymdeithas ehangach. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Nod y cynllun peilot hwn yw helpu plant ysgol, gan gynnwys y rheiny sydd mewn perygl o fod yn anystywallt, i ddysgu sgiliau newydd ac i ail-ymgysylltu ag addysg drwy fynychu cyfres o weithdai ysbrydoledig wedi’u cynnal gan arbenigwyr addysg a lles.” Mae’r cynllun peilot yn cynnwys cyfres o weithdai dwy awr ar gyfer plant wedi’u dewis o ysgolion Sir y Fflint. Mae’r gweithdai yn ymdrin â materion fel hunan-barch, dyheadau, mentergarwch, iechyd, moeseg, credoau, lles, ieithoedd, amrywiaeth a chyfathrebu. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu, hysbysu ac ysbrydoli disgyblion, gan gynnwys gwaith unigol a grwp, ysgrifennu cyflwyniadau, dysgu sgiliau newydd a gwaith creadigol. Mae’r cynllun peilot wedi’i ymestyn, yn dilyn cyfnod prawf 3 mis llwyddiannus gydag Ysgol Maesglas yn Nhreffynnon ac Ysgol Cae’r Nant yng Nghei Connah. Bu i dros 50 o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 fynychu’r gweithdai. Meddai Sid Madge, sefydlydd y prosiect Meee: “Mae estyn y cynllun peilot yn ardystiad gwych o’r gwaith rydym ni’n ceisio ei wneud i helpu pobl ifanc ddarganfod eu hunain, i’w hysbrydoli ac i’w annog i ymgysylltu ag addysg mewn ffordd newydd.” Meddai Pennaeth Ysgol Maesglas, Gavin Cass: “Roeddem yn falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r cynllun peilot hwn. Roedd Sid a’i dîm yn frwdfrydig ac amyneddgar dros ben. Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i roi hwb i’r disgyblion cyn iddyn nhw symud ymlaen i’r ysgol uwchradd. Maer staff ar disgyblion yn sôn am y profiad mewn ffordd gadarnhaol iawn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Meee eto. Meddai Kate Fox-Parry, Pennaeth Ysgol Cae’r Nant: “Roedd prosiect Meee yn cyd-fynd yn dda iawn gyda’n gwaith twf cyfeiriad meddwl, a bu i’r plant ei fwynhau yn fawr iawn gan ei fod yn eu herio ac yn gwneud iddyn nhw bennu disgwyliadau uchel.” Bydd y cynllun peilot estynedig yn cael ei gynnal o fis Medi 2017 tan ddiwedd mis Mawrth 2018.