Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Darlun Mawr

Published: 04/10/2017

Y Darlun Mawr (http://thebigdraw.org/) yw gwyl ddarlunio fwyaf y byd gyda miloedd ar filoedd o weithgareddau darlunio (y mwyafrif ohonynt am ddim) i’w mwynhau. Bydd y gweithgareddau hyn yn cysylltu unigolion o bob oedran ag amgueddfeydd, mannau awyr agored, artistiaid, dylunwyr, darlunwyr – a’i gilydd. Mae’r Darlun Mawr yn ddigwyddiad delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau darlunio, a’r sawl sy’n meddwl nad ydynt yn gallu gwneud! Mae darlunio yn iaith gwbl unigryw. Ydych chi eisiau troi syniad yn realiti? Mae penseiri, dylunwyr, artistiaid, peirianwyr a gwyddonwyr yn defnyddio darluniau i newid y byd yn ddyddiol. Mae croeso i bawb ymuno â’r wyl ddarlunio fwyaf yn y byd. Dewch draw i ddarlunio, sgriblo, braslunio, paentio neu greu marciau ag ystyr a dathlu pwysigrwydd darlunio a llythrennedd gweledol. Gweithdai Sir y Fflint Bydd Parc Gwepra a Theatr Clwyd yn cynnal gweithdai darlunio, creu ac animeiddio gyda’r artistiaid Ben Davis a Jude Wodd fel rhan o ddathliadaur Darlun Mawr, Sir y Fflint. Mae’r gweithdai’n rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw, felly dewch draw i ymuno. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Gwenno drwy ffonio 01352 781454 neu e-bostio gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk. Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra, 10am – 2.30pm, dydd Sadwrn, 7 Hydref a dydd Sul, 8 Hydref. Theatr Clwyd, 11am – 4pm, dydd Sul, 15 Hydref fel rhan o Ddiwrnod Agored y Theatr https://www.theatrclwyd.com/cy/beth-sydd-ymlaen/diwrnod-agored-hydref-2017/ Bydd y gwaith a grëwyd i’w weld yng Ngaleri Addysg Theatr Clwyd o ddydd Mawrth, 24 Hydref hyd at ddydd Mawrth, 21 Tachwedd.