Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Ynglyn â Setliad Llywodraeth Leol

Published: 11/10/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau eraill yng Nghymru i fynegi ei bryder ynghylch setliad dros dro’r llywodraeth leol, gan gydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd mewn sefyllfa anodd. Roedd y Cyngor wedi pwyso am setliad ariannol safonol a buddsoddiad ychwanegol mewn gofal cymdeithasol ac addysg. Mae gostyngiad o 0.9% yn fygythiad gwirioneddol i barhad y gwasanaethau rheng flaen hynny yr ydym ni wedi brwydro’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i’w gwarchod. Ers tair blynedd yn olynol mae Cyngor Sir y Fflint, fel Cyngor sy’n cael llai o gyllid y pen dan y fformiwla ariannu, wedi datgan pam bod cynghorau yn y sefyllfa hon yn arbennig o ddiamddiffyn i effeithiau parhaus y caledi ariannol. Roeddem wedi rhagweld bwlch ariannol o £11.7 miliwn. O ganlyniad i’r setliad hwn mae’r bwlch wedi codi £1.6 miliwn, heb unrhyw gefnogaeth genedlaethol ar gyfer gwasanaethau allweddol. Mae’r Cyngor yn parhau i ganfod ffyrdd arloesol i arbed arian ac eisoes yn cynnig gwerth £3 miliwn o arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Pan fydd y Cabinet yn cyfarfod ar 24 Hydref, bydd datganiad pellach ar gael o ran sut y gallwn gyrraedd ein targed cyllidebol ar gyfer 2018/19. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Hoffaf ategu barn Ysgrifennydd y Cabinet o ran galw ar Ganghellor y Trysorlys i wrthdroi rhaglen galedi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a fyddai wedyn yn darparu cyllid ychwanegol i Gymru elwa arno, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol ac addysg. Oni bai fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud hyn, bydd Cyngor Sir y Fflint a chynghorau eraill yng Nghymru yn wynebu her aruthrol y flwyddyn nesaf i bennu cyllideb gytbwys. Ni ddylid rhoi cynghorau yn y sefyllfa hon o gwbl.