Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu caeau chwaraeon newydd

Published: 13/10/2017

Mae’r caeau chwaraeon artiffisial yn Ysgol Uwchradd Penarlâg ac Ysgol Uwchradd Alun Yr Wyddgrug wedi eu disodli a’u huwchraddio fel rhan o ymrwymiad ariannol sylweddol i ardaloedd chwarae gan Gyngor Sir y Fflint. Cyfarfu cynrychiolwyr y Cyngor a’r ddwy ysgol yn ddiweddar er mwyn dathlu’r buddsoddiad cyffrous hwn yn y caeau pob tywydd (astro) a bydd y ddwy ysgol yn ogystal âr cymunedau ehangach yn elwa ohonynt. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: ‘Mae’r Cyngor wedi gwneud ymrwymiad clir i gynnal a gwella darpariaeth chwarae o fewn y Sir a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn meysydd chwarae a chaeau chwaraeon synthetig fel y rhain. Rwy’n falch fod Sir y Fflint wedi cymryd y cam dewr hwn i warchod adnoddau or fath er mwyn i’n trigolion eu defnyddio a’u mwynhau. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwelliannau hyn ac rwy’n siwr y byddant yn boblogaidd gyda disgyblion a thrigolion lleol.” Meddai pennaeth Ysgol Uwchradd Penarlâg, Simon Budgen: “Mae’r ysgol yn ddiolchgar iawn am gymorth ariannol Cyngor Sir Y Fflint i ail agor yr adnodd hon ar gyfer yr ysgol a’r gymuned leol. Mae cael yr adnodd wych yma yn wirioneddol ychwanegu gwerth at gyfranogiad disgyblion mewn chwaraeon a’u haddysg gorfforol. Ychwanegodd pennaeth Ysgol Alun Yr Wyddgrug, Jane Cooper: “Rydym wrth ein boddau gyda’r arwyneb newydd ar y cae artiffisial ac rydym yn ddiolchgar iawn o dderbyn y buddsoddiad gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd myfyrwyr o Ysgol Alun ac Ysgol Maes Garmon yn ogystal ag aelodau o’r gymuned leol yn elwa o’r uwchraddiad hwn i’r adnoddau chwaraeon ar y campws.” Mae’r Cyngor hefyd yn buddsoddi mewn meysydd chwarae lleol dros y dair blynedd nesaf. Bydd £25,000 yr un yn cael ei fuddsoddi yn ardaloedd chwarae Y Fflint, Ffynnongroyw, Cei Connah a Bagillt yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18, gydag ardaloedd chwarae eraill yn derbyn gwelliannau yn y blynyddoedd dilynol.