Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau yn Gyntaf – beth sydd gan y dyfodol iw gynnig

Published: 13/10/2017

Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter i drafod adroddiad ar ddyfodol Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth. Cychwynnwyd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sy’n mynd i’r afael â thlodi mewn ardaloedd difreintiedig o Gymru yn Sir y Fflint yn 2002. Maer rhaglen ar fin dod i ben ym mis Mawrth 2018. Mae cyllid ar gyfer y rhaglen ESGYN i helpu pobl ddi-waith yn ôl i waith hefyd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Bydd y rhaglen Cymunedau dros Waith yn parhau i weithredu yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf tan fis Mawrth 2020. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dwy raglen newydd ar 1 Ebrill 2018. Y cyntaf yw’r Gronfa Etifeddol a fydd yn cynnig cyllid ar raddfa fach i alluogi Cyngor Sir y Fflint i barhau i redeg gweithgareddau Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi profi’n werth eu gwneud am ddwy flynedd arall. Bydd yr ail raglen, y Rhaglen Gyflogadwyedd yn rhoi seilwaith rheoli i raglen Cymunedau dros Waith ac yn cyllido cymorth ychwanegol i bobl ddi-waith mewn ardaloedd difreintiedig tan fis Mawrth 2020. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn rhaglen hynod o boblogaidd yn Sir y Fflint gyda bron i 4,000 o bobl yn derbyn cefnogaeth a 382 o bobl yn darganfod gwaith, ynghyd â Rhwydwaith Menter Busnes yn cefnogi 120 o bobl ac yn helpu i sefydlu 25 o fusnesau newydd – i enwi dim ond rhai o’r cyflawniadau gwych. Mae llawer o’r rhaglenni hyn wedi bod yn gweithio gyda’r rhai sydd fwyaf dan anfantais a’r unigolion hynny sydd wedi ymrwymo lleiaf yn eu cymunedau. “Yn Sir y Fflint eleni rydym wedi canolbwyntio ar gymorth cyflogaeth, datblygu sgiliau, profiad gwaith a datblygu mentrau cymdeithasol ac maer cynigion gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn dda âr hyn a wnawn yn Sir y Fflint. Mae cyllid ar gyfer Cymunedau dros Waith a’r Gronfa Etifeddol wedi’i gyhoeddi, ond nid yw cyllid ar gyfer y Rhaglen Gyflogadwyedd wedii ryddhau eto. Bydd y rhaglenni newydd angen cymhareb staff tebyg i’r hyn sydd eisoes yn ei le. Gall y rolau fod yn wahanol yn y rhaglenni newydd ir rhai yn y strwythur presennol a bydd angen ailstrwythuro’r tîm ymhellach.