Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Atafael tybaco anghyfreithlon mewn cyrch ar y cyd

Published: 09/07/2014

Mae gweithrediad ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru wedi atafael tybaco anghyfreithlon. Atafaelwyd tua 63,000 o sigarennau a 3kg o dybaco rhydd o dair storfa yn Fflint. Mae’r ymchwiliadau i darddiad y sigarennau’n parhau. Cefnogwyd y gweithrediad gan gwn synhwyro tybaco arbenigol a ddaeth o hyd i dybaco oedd wedi’i guddio mewn cownter siop oedd wedi’i adeiladu’n arbennig gyda rhan guddiedig â drws oedd yn cael ei reoli’n electronig. Roedd pupur wedi’i chwistrellu dros y tybaco mewn ymgais i’w guddio rhag y cwn . Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd: “Mae hwn yn enghraifft wych o waith partneriaeth rhwng Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor a Heddlu Gogledd Cymru. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon rhad yn ei gwneud yn haws i ysmygwyr newydd fynd yn gaeth iddo ac yn ei gwneud yn anoddach i’r ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi. Nid yw’n drosedd heb ddioddefwyr o bell ffordd, mae canlyniadau difrifol i fasnach tybaco anghyfreithlon o ran trosedd ac iechyd yn y gymuned ac mae’n achosi niwed economaidd i fusnesau lleol cyfreithlon. Dywedodd yr Arolygydd Ceri Hawe o Heddlu Gogledd Cymru , “Aethom i dri eiddo yn y Fflint gyda swyddogion Safonau Masnach Sir y Fflint i weithredu gwarantau. Atafaelwyd symiau sylweddol o dybaco anghyfreithlon. Roedd gwybodaeth a dderbyniwyd gan aelodau’r cyhoedd wedi bod o gymorth gyda’r weithred hon a hoffwn ofyn i unrhyw un sy’n ymwybodol o unrhyw eiddo sy’n gwerthu nwyddau o’r fath i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint.” Gall unrhyw un sy’n dymuno adrodd am werthiant tybaco anghyfreithlon i’r gwasanaeth safonau masnach ffonio 03454 040506. Nwyddau tybaco anghyfreithlon yw sigarennau neu dybaco rhydd sydd wedi’u smyglo neu’n rhai ffug ac nid ydynt yn destun unrhyw reoliadau o ran eu cyfansoddiad. Pennawd ar gyfer y llun: Y tybaco anghyfreithlon wedi’i guddio yn un o’r storfeydd.