Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn ennill Gwobr Maethu

Published: 01/11/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi eu hanrhydeddu fel “Cyflogwr Croesawu Maethu y Flwyddyn” mewn seremoni gwobrwy maethu cenedlaethol a gynhaliwyd yn Llundain ar 26 Hydref 2017. Cymeradwyodd y Cyngor bolisi “Croesawu Maethu” ym mis Tachwedd y llynedd. Dyma’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gael eu hadnabod fel cyflogwr croesawu maeth. Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yw’r gwobrau gofal maeth blaenllaw yn y DU. Maent yn dathlu cyflawniad rhagorol ac amlwg mewn maethu ac yn adnabod y rheiny sydd yn gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob blwyddyn. Yn ei bedwaredd flwyddyn bellach, mae Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yn disgleirio’r golau ar rai o bobl ifanc, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac eraill sydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned maethu. Mae’r polisi yn cynnig pum niwrnod o absenoldeb â thâl i weithwyr y Cyngor yn y broses i ddod yn ofalwyr maeth i’r awdurdod lleol. Hefyd mae’r polisi yn caniatáu pum niwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl i weithwyr sydd yn ofalwyr maeth gyda Sir y Fflint fel y gallent fynychu hyfforddiant a/neu gyfarfodydd, paneli, gwrandawiadau neu unrhyw ddigwyddiadau allweddol i gefnogi plant maeth a phobl ifanc yn eu gofal. Mae’r polisi croesawu maethu wedi’i hyrwyddo’n eang i weithlu mewnol y Cyngor. Ers lansio’r polisi, mae’r tîm maethu wedi cael ymholiadau a cheisiadau gan weithwyr sydd yn dod â phrofiad rhagorol ou math o swyddi. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae ceisio cydbwyso bod yn rhiant a gweithio yn her i fwyafrif o deuluoedd, ond mae gan blant mewn gofal maeth heriau ychwanegol oherwydd eu bod wedi dioddef o gamdriniaeth neu esgeulustod. Gall hebrwng plant ir ysgol ac oddi yno fod yn ymdrech, gallu ymateb i anghenion eich plant os ydynt yn cael problemau yn yr ysgol, neu yn syml cael yr ystafell wely’n barod ar gyfer y plentyn newydd sy’n dod i’ch gofal. Mae’n bwysig bod ein gofalwyr maeth yn cael hyblygrwydd i ymateb i anghenion y plant.” Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint: “Mae gofalwyr maeth angen mynychu hyfforddiant i ddysgu strategaethau newydd i helpu gydag ymddygiad cymhleth cynyddol plant, ac mae cwrs hyfforddi tri diwrnod sydd angen ei gwblhau cyn y gallent ddod yn ofalwr maeth. Byddai hyn i gyd yn golygu y byddai rhaid i ofalwr maeth ddefnyddio eu gwyliau blynyddol y maent ei angen pan maer plant ar eu gwyliau ysgol. Drwy allu gweithio a maethu, mae’n sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn gallu parhau â’u gyrfa, yn sefydlog ariannol ac yn rolau model da drwy fod mewn cyflogaeth.” Mae gan Gyngor Sir y Fflint ofalwyr maeth eisoes a oedd yn falch o glywed bod Sir y Fflint yn gyflogwr ystyriol o rieni maeth, gan eu caniatáu i gael rhagor o ddyddiau i ffwrdd i fynychu hyfforddiant ac i wella eu sgiliau. Dywedodd Jane Liddle, gofalwr maeth Sir Y Fflint a gweithiwr i’r Cyngor: “Rwy’n falch bod Sir y Fflint wedi adnabod yr anawsterau y mae eu gofalwyr maeth yn eu hwynebu wrth geisio cydbwyso bywyd gwaith a bywyd gartref. Fel gofalwr maeth mewn argyfwng/ seibiant sydd yn gweithio i Wasanaethau Cymdeithasol, yn y gorffennol roedd rhaid i mi ddefnyddio fy ngwyliau hyblyg i gyflawni fy rôl maethu ac nid oeddwn eisiau mynychu cyrsiau hyfforddi oherwydd bod angen i mi ddefnyddio fy ngwyliau blynyddol. Mae Croesawu Maethu Sir y Fflint yn rhoi cyfle i mi fynychu cyrsiau heb gael fy nghosbi ac felly i ddatblygu fy sgiliau a gwybodaeth a chwrdd â gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Dywedodd Caroline, gofalwr maeth a gweithiwr i’r Cyngor: “Rwy’n credu bod y cymorth gan y Cyngor wedi bod yn eithriadol ac wedi fy helpu yn fy rôl o fod yn ofalwr maeth. Mae’r gwyliau ychwanegol ac oriau hyblyg yn rhoi hyblygrwydd yr wyf ei angen i fynychu cyfarfodydd, hyfforddiant a delio ag unrhyw argyfyngau annisgwyl sy’n codi pan rydych yn rhan o deulu maeth.”