Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Diwrnod Atgofion Ysgol

Published: 26/10/2017

Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus yn Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarlâg yn ddiweddar. Daeth pobl leol draw ir Diwrnod Atgofion Ysgol gan ddod âu hen luniau ysgol gyda nhw. Cafodd rhai eu cyflwyno fel rhodd ac eraill eu sganio a’u dychwelyd i’w perchnogion ac arweiniodd hyn at gynnydd mawr yn y nifer o luniau ysgol sydd wedi eu cadw yn yr archif. Ar y diwrnod roedd yna arddangosfa o luniau ysgol, arddangosfa o lyfrau cofrestru ac arholiad 11 plus o’r 1950au gyda gwobr i’r enillydd. Dywedodd Prif Archifydd Cyngor Sir y Fflint, Claire Harrington: “Rydym wrth ein bodd gyda’r niferoedd sydd wedi dod yma a’r sylwadau cadarnhaol. Mae gennym gasgliad mawr o luniau ysgol ond mae yna rai bylchau, a dyma pam yr aethom ati i gynnal y digwyddiad hwn. Fe dderbyniom dros 20 o eitemau ar y diwrnod ac rydym wedi cael mwy ers hynny - po fwyaf o luniau sydd gennym yna gorau oll fydd y casgliad i’w fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol.” Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol ar y diwrnod ond y byddech yn hoffi ychwanegu eich lluniau ysgol ir casgliad, yna ffoniwch 01244 532364 os gwelwch yn dda a gwneud apwyntiad i ddod i mewn. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych ac fe fyddwn yn annog unrhyw un sydd â hen luniau ysgol i ddod â nhw i mewn. Mae cyfleuster sganio gan yr Archifdy os ydych yn dymuno cadw eich lluniau gwreiddiol. Mae’r bylchau yn y casgliad yn bennaf yn ardal Glannau Dyfrdwy (Sealand, Queensferry, Shotton a Chei Connah) felly byddai unrhyw luniau ysgol o’r ardaloedd hynny’n cael eu croesawu’n fawr.”