Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyn safle modurdy wedi ei drawsnewid yn dai cyngor newydd

Published: 26/10/2017

Mae gwaith wedi ei gwblhau’n ddiweddar ar ddatblygiad tai cyngor newydd yn St. Mark’s Court, oddi ar St. Mark’s Avenue, Cei Connah, ac mae wedi ei agor yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton Y datblygiad hwn o bum ty cyngor yw’r cynllun diweddaraf i’w gyflawni o dan Raglen Tai ac Adfywio Strategol pum mlynedd y cyngor, a ddechreuodd yn haf 2015 mewn cydweithrediad â’i bartner datblygu strategol Wates Residential, un o brif ddatblygwyr y DU. Daw’r gwaith yn dilyn cwblhau 12 eiddo yn llwyddiannus yn Cwrt y Tollty yng Nghei Connah yn Rhagfyr 2016, y tai cyngor newydd cyntaf i’w hadeiladu yng Nghymru mewn dros 20 mlynedd, yn ogystal â’r cynllun tai cymdeithasol a fforddiadwy sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn The Walks yn y Fflint. Mae gwaith ar fwy o eiddo cyngor newydd hefyd ar y gweill mewn safleoedd yng Nghoed-llai (Maes y Meillion a Heol y Goron) a’r Wyddgrug (cyn Ysgol Delyn). Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint; “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant parhaus rhaglen dai uchelgeisiol y cyngor yn darparu tai cymdeithasol a fforddiadwy newydd o ansawdd uchel mewn cymunedau gwledig a threfol. “Hoffwn ddiolch i bartner strategol y Cyngor, Wates Residential, am ei waith rhagorol ai ymrwymiad i helpu’r cyngor hwn i gyflawni ei uchelgais hir dymor ar gyfer datblygu tai fforddiadwy a chymdeithasol ar draws y sir.” Dywedodd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros Dai: “Mae yna angen brys am dai cyngor gyda rhent fforddiadwy o hyd. Mae cwblhau’r tai cyngor newydd hyn unwaith eto’n pwysleisio ymrwymiad y cyngor hwn a’i benderfynoldeb i sicrhau fod tai cymdeithasol o’r ansawdd uchaf ar gael i bobl o fewn eu cymunedau lleol.” Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential yn y Gogledd: “Mae’r adfywiad pwysig hwn a gyflawnir ar draws Sir y Fflint gan y Cyngor Sir a Wates Residential fel rhan o’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol yn trawsnewid darpariaeth tai Sir y Fflint ac yn helpu i ymdrin âr prinder cartrefi yn y sir. “Mae cwblhau St Mark’s Court yng Nghei Connah yn rhoi boddhad hynod, ac mae trawsnewid y cyn safle modurdy yn darlunio’n berffaith sut y mae’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol yn gwella marchnad dai Sir y Fflint er gwell. Rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda’n partneriaeth â’r Cyngor, gan adeiladu tai sydd eu hangen yn fawr, tai y bydd pobl Sir y Fflint yn falch o fyw ynddynt.”