Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint Mewn Busnes yn cefnogi prentisiaid

Published: 27/10/2017

Mae Sir y Fflint mewn Busnes yn gweithio mewn partneriaeth â Picture House Films i gynhyrchu ffilm fer sy’n rhoi gwybodaeth ac yn dangos manteision prentisiaethau. Mae Sir y Fflint mewn Busnes yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithlu profiadol i fusnes llwyddiannus. Maent hefyd yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw recriwtio a chadw pobl leol gyda’r sgiliau angenrheidiol. Drwy Sir y Fflint mewn Busnes, mae’r Cyngor yn cefnogi busnesau lleol i ymateb i’r bwlch hwn mewn sgiliau a helpu i sicrhau fod yr economi leol yn tyfu drwy recriwtio prentisiaid. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd, sy’n cefnogi’r llwybr prentisiaethau’n llawn: “Mae yna lawer o enghreifftiau gwych yn y ffilm hon sy’n dangos llwyddiannau mewn gyrfaoedd a ddechreuodd fel prentisiaeth. Hoffwn weld mwy o brentisiaethau ar gael mewn meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a phobl ifanc yn dewis y llwybr hwn fel dewis arall i addysg llawn amser. “Nid yn unig a yw o fudd i’r prentis, sy’n gallu ennill llawer o arian wrth ddysgu, ond mae’n helpu’r busnesau i hyfforddi a datblygu unigolion gyda’r gyfres gywir o sgiliau. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i brentisiaid ddatblygu eu gyrfaoedd na fydd wedi bod yn agored iddynt efallai drwy addysg llawn amser mor fuan yn eu gyrfaoedd.” Dywedodd Matt Booth, Arweinydd Gweithgynhyrchu’r DU yn Electroimpact UK: “Roeddem yn hapus iawn i gael y cynnig o fod yn rhan o’r ffilm fer hon, mae Electroimpact UK wedi gweld drosom ein hunain beth maer cynllun prentisiaethaun ei wneud, nid yn unig ir cwmni, ond sut mae o fudd mawr i brentisiaid unigol. Mae’r elfen ddysgu o brentisiaeth yn amrywio o Lefel 1, hyd at radd meistr, felly i lawer gall gynnig dewis amgen cadarnhaol iawn i astudio’n llawn amser. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd, ac yn cynnwys gyrfaoedd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) - mae prentisiaeth yn caniatáu bod cymwysterau a phrofiad yn cael eu hennill ar yr un pryd. Drwy weithio gyda busnesau lleol, yn cynnwys Toyota, DRB Group, Anwyl Construction, Electroimpact a Picture House Films, mae’r Cyngor wedi cynhyrchur ffilm fer hon i dynnu sylw at y buddion o gymryd y llwybr prentisiaeth i gyflawni amcanion gyrfa. Bydd y ffilm hon yn cael ei chylchredeg mor eang â phosibl, i gynnwys busnesau, ysgolion a cholegau yn yr ardal leol. Y bwriad yw cyrraedd y rhai hynny sydd yn y camau cyntaf o gynllunio eu gyrfaoedd a’r angen i feddwl am brentisiaeth fel dewis difrifol, neu efallai’r rhai hynny syn meddwl am newid gyrfa. Mae modd gweld y ffilm drwy’r ddolen gyswllt hon: https://vimeo.com/232638543.