Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Glan y Morfa yn edrych yn dda

Published: 01/11/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gontractwyr adeiladu er mwyn cynorthwyo i orffen y gwaith diweddaru sydd angen wneud ar ein stoc dai. Mae’r contractwyr yn gweithio ar y Safon Ansawdd Tai Cymru sy’n safon genedlaethol ar gyfer cartrefi a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gwaith yn rhoi swyddi a phrentisiaethau i bobl leol. Yn ogystal â hynny mae’n contractwyr wedi bod yn cynorthwyo cymunedau mewn amrywiol ffyrdd. Mae Wates Living Space, darparwyr atgyweirio a chynnal a chadw, wedi bod yn gweithio ar waith gwella yn Glan y Morfa Court yng Nghei Connah. Maent hefyd wedi treulio amser ar waith gwella ar gyfer rhodfa tan orchudd ar ardd gymunedol, ac wedi darparu planhigion a mainc newydd fel gall y preswylwyr eistedd a mwynhau’r ardd. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae safon y gwaith a gyflawnwyd yn dda iawn, a hoffwn ddiolch i Peter Bates, clerc gwaith Sir y Fflint, a’n contractwyr Wates Living Space – mae eu gwaith mewn partneriaeth ac ymrwymiad i’n cymunedau lleol yn cael ei werthfawrogi, ac rwy’n siwr y bydd y preswylwyr yn falch iawn o’u gardd “newydd”. Dywedodd David Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wates Living Space: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn gosod y safon ar gyfer gwelliannau i dai lleol, ac mae’n foddhaol iawn gweld yr effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar y gymuned leol. “Ers i ni ddechrau gweithio yn Sir y Fflint, rydym wedi ymrwymo i adnabod ffyrdd y gallwn effeithion gadarnhaol yn y sir. Mae ein gwaith yn yr ardd gymunedol yng Nghei Connah yn enghraifft wych o’r etifeddiaeth gadarnhaol yr ydym eisiau ei adael fel rhan on gwaith yn Sir y Fflint. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r ardd am nifer o flynyddoedd.”