Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Criw Celf Bach

Published: 03/11/2017

Gweithdai celf i blant ym Mharc Gwepra yn dechrau ddydd Sadwrn yma 4 Tachwedd Mae Criw Celf Bach yn glwb celf i blant 7 - 11 oed a gynhelir ar draws Sir y Fflint. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i blant greu celf gydag artist proffesiynol yn ystod gweithdai celf dydd Sadwrn. Bydd sesiynau yn caniatáu archwilio chwareus o ddeunyddiau, technegau a themâu celf. Darperir yr holl ddeunyddiau celf. Mae’r ddwy sesiwn gyntaf wedi’u cadarnhau yn Ystafell yr Ardd ym Mharc Gwepra ddydd Sadwrn 4 Tachwedd lle bydd cyfranogwyr yn tynnu llun gydag inciau, a dydd Sadwrn 18 Tachwedd ar gyfer sesiwn dymhorol ar Grefftau’r Nadolig. Bydd rhagor o ddyddiadau o fis Ionawr 2018 yn cael eu cadarnhau cyn hir. Dewch i arbrofi, mwynhau a dysgu! Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan adain Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint. Bydd sesiynau’n para am ddwy awr rhwng 10am a hanner dydd ac fe’u cynhelir ar ddydd Sadwrn gyda’r artist Honor Pedican. £35 am ddeg sesiwn neu £4 y sesiwn, i’w dalu ar y diwrnod. I gael rhagor o wybodaeth a / neu i archebu lle ffoniwch Honor Pedican ar 07543 110898 neu anfonwch e-bost at honorcreative1@gmail.com.