Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau yn Gyntaf a Strydwedd yn dod at ei gilydd i gynnig hyfforddiant

Published: 06/11/2017

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a thîm Strydwedd y Cyngor wedi bod yn cydweithio i greu cyfle newydd cyffrous i bobl allu cychwyn ar y llwybr tuag at waith. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cynnig cwrs a fydd yn rhoi cyfle i drigolion lleol ddysgu sgiliau a chael hyfforddiant a phrofiad yn ymwneud â gwaith yn yr adran Strydwedd. Mae’r cwrs tair wythnos yn dechrau ddydd Mawrth, 14 Tachwedd yn Nepor Cyngor yn Alltami (CH7 6LG), 9:30am tan 4pm. Os hoffech chi ychwanegu at eich CV gyda hyfforddiant achrededig a chyfleoedd am brofiad gwaith, yna dymar cyfle i chi. Yn yr wythnos gyntaf, bydd hyfforddiant ar nifer o bynciau, gan gynnwys codi a symud yn gorfforol, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd cyfle wedyn i gael profiad gwaith ar ddiwrnodau blasu yn ystod yr ail wythnos. Yn olaf, yn y drydedd, bydd cwrs trimio a hyfforddiant ar ddelio â gwastraff cyffredinol. Bydd hefyd yn cynnwys cymorth gyda’ch CV, datblygu hyder, sgiliau cyflogadwyedd a chyfweliadau ffug, lleoliadau gwaith a chyfle i wneud cais am swyddi gwag o fewn yr adran Strydwedd. I gael gwybod mwy ac i gofrestru, cysylltwch â Nia Parry o Gymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu anfon e-bost at nia.parry@flintshire.gov.uk