Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar y cynnig gofal plant

Published: 14/11/2017

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn adroddiad wedi’i ddiweddaru ar weithrediad cynnar llwyddiannus y Cyngor o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru a bydd gofyn iddynt gytuno ar ymestyn y cynnig i rannau eraill o’r Sir pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Roedd Sir y Fflint yn un o chwe Chyngor a lwyddodd yn eu cais i fabwysiadur cynllun yn gynnar ac maer cynnig yn cael ei beilota ar hyn o bryd gan Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf. Nod y cynnig gofal plant 30 awr yw lliniaru ar effeithiau tlodi a lleihau anghyfartaledd. Bydd y cynllun peilot yn Sir y Fflint yn canolbwyntio ar roi’r cynnig ar brawf mewn ardaloedd o gyflogaeth isel ac uchel, ar draws rhwydweithiau teithio i’r gwaith, gan gynnwys teithio i ardaloedd y tu allan i Gymru, ac mewn amrywiaeth o leoliadau a gynhelir a lleoliadau nad ydynt yn cael eu cynnal. Hyd yma, mae Sir y Fflint wedi cael 215 o geisiadau ac mae wedi llwyddo i wneud y broses ymgeisio yn un awtomatig gan alluogi rhieni i gofrestru ar-lein a hunanddewis darparwyr gofal plant cofrestredig o’r 134 o ddarparwyr cofrestredig. Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Os bydd y broses gyflwyno yn cael ei chymeradwyo, bydd yn golygu fod y ffigwr targed gwreiddiol o 441 o blant yn cael ei gynyddu i 748 o blant. Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma gan y Tîm Peilot Gofal Plant wedi bod yn arbennig a bydd hyn yn parhau i sicrhau fod y cynllun yn llwyddiannus. Mae cyflwyno’r cynllun hwn ymhellach yn golygu y gallwn sicrhau fod cymaint â phosibl yn manteisio arno gan sicrhau ein bod yn helpu cymaint o deuluoedd sy’n gweithio â phosibl. Byddwn yn parhau i roi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo’r cynnig mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys cyflwyniadau mewn ysgolion, cynghorau tref a chymuned a darparwyr gofal plant.” Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae Sir y Fflint yn gweithio’n galed i gefnogi teuluoedd lleol. Byddwn yn helpu teuluoedd sy’n gweithio’n galed i gydbwyso magu plant gyda gofal plant ar gyfer anghenion gwaith i fod yn fwy hyblyg yn ogystal ag yn fwy fforddiadwy. Mae ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi mwy o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant nac erioed o’r blaen yn gam allweddol wrth gyflawni’r ymrwymiad hwnnw.”